Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CEREDIGION CYLCHGRAWN 'v,-v CYMDEITHAS HYNAFIAETHWYR CEREDIGION JOURNAL OF THE CEREDIGION ANTIQUARIAN SOCIETY CYFROL/VOLUME XI 1991 RHIFYN/NUMBER 3 DANIEL ROWLAND (? 1711-1790): PREGETHWR DIWYGIADOL* Y peth cyntaf y mae'n rhaid i bawb a lunio ddim ar Daniel Rowland ei ddatgan yw bod cyn lleied o ffeithiau amdano ar gael-neu yn hytrach bod cyn lleied o ddogfennau gwiredig a gwiradwy o'i eiddo ef ei hun wedi'u cadw. Yn wir, gan deneued y dystiolaeth, ni wyr neb erbyn hyn (nac ers canrif a hanner dda) faint o bethau oedd ganddo i'w cadw. Llythyrau, heb os; nodiadau ar gyflyrau aelodau'i seiat, efallai; drafftiau o rai pregethau, nid hwyrach. Ond beth arall? Beth arall a ddywedasai wrthym rywbeth amdano, am y dyn mewnol? A gadwodd ef, fel Howell Harris, ddyddlyfrau lu i ddangos i'w ddisgynyddion (ei ddisgynyddion yn 61 yr ysbryd onid ei ddisgynyddion yn 61 y cnawd) 'mor synhwyrus ydoedd sant'? Ni all neb ateb a sicrwydd, wrth gwrs, ond petai'n rhaid i mi farnu dywedwn 'Naddo'. Tybiaf nad oedd bob amser ddim yn or-hoff o ysgrifennu. Ychydig iawn iawn o'i lythyrau at eraill a ddaeth i'r fei erioed; ychydig ychydig sydd yng Nghasgliad Trefeca; ac mewn cyfnod pan oedd ei gyd- arweinydd Methodistaidd heb neb i'w helpu rhoddodd y Sasiwn fore i Rowland amanuensis. Wedi hyn, ddeng mlynedd ar hugain yn ddiwedd- arach, nid ef ei hun, ond rhywun arall, Thomas Davies, a ymgymerodd a chyhoeddi tri chasgliad o'i bregethau. Davies a ymdrafferthodd i roi parhad print i'w lafar; Davies hefyd a gyfieithodd ei bregethau i'r Saesneg ac a gasglodd y tanysgrifwyr i'r llyfrau Cymraeg a'r llyfr Saesneg. A chasgliadau bychain o bregethau ydynt, cyfanswm o un ar ddeg gan wr a bregethodd filoedd o bregethau ac a baratodd rai cannoedd ohonynt, yn ddiau. O'r ochr arall, gwelodd Rowland yn dda gyfieithu un o lyfrau *Traddodwyd y ddarlith hon gerbron aelodau'r Gymdeithas yng Nghapel Gwynfil, Llangeitho, ar 8 Rhagfyr 1990.