Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bunyan; mae ganddo ugeiniau o emynau ar glawr, ac, unwaith, aeth mor bell a diffinio'r ddadl a fu rhyngddo a Harris ar natur y Drindod a'i hargraffu. Er hyn, gellir honni nad oes ym mhatrwm ei fyw a'i fod ddim un argoel i ni golli gwybodaeth wefreiddiol ddatguddiol amdano wrth golli'i bapurau rywle yng nghartref Lady Huntingdon tua 1792/3. O'r tri arweinydd mawr a gafodd y Diwygiad Methodistaidd yn y ddeunawfed ganrif, Rowland, y mwyaf cyhoeddus ohonynt, o ran ei apel fel pregethwr ac offeiriad ac o ran ymlyniad ei bobl wrtho a'u dibyniaeth arno, yw'r mwyaf preifat hefyd, y mwyaf cudd. 'Cudd fy meiau rhag y werin', ebe Williams Pantycelyn, yr hwn a dreuliodd ddeugain a phump o flynyddoedd yn eu datgelu'n ddychmygus. Dywedodd yr un Williams am Harris: Byth na chofier am ei bechod, Na 'sgrifener dim o'i fai, ond yr oeddynt-i bawb-yn eithaf hysbys, yn bechodau ac yn feiau cwbl naturiol, cyffrous ddramatig. Am Rowland, nemor ddim: ambell awgrym ei fod yn oriog, ambell awgrym ei fod yn dioddef yn ysbeidiol o iselder, a'i ferch yn dweud ei fod yn un 'enbyd pan y twymnai', ond beth am hynny? Y cwestiwn sy'n codi yw hwn: a yw'n deg dal nad athrylith hunanadnabod oedd athrylith Daniel Rowland? Ac yn wir nad oedd ganddo lawer o ddiddordeb yn yr ymchwil eneidiol a ymddengys weithiau fel ffetish gan grefyddwyr teimladwy megis y Methodistiaid cynnar? Y chi sy'n nabod eich Methodistiaid-pan ddarluniwch Harris ar len y meddwl, ei weld yr ydych (onid e?) liw dydd yn trafaelio ar led, liw nos yn llafurus-afieithus yn cofnodi'i brofiadau yn ei ddyddlyfr; pan welwch Williams, fe'i gwelwch mewn seiat yn stiwardio'n ysbrydol neu yn ei stydi'n ysgrifennu, yn ddi-ffael yn ffeilio profiadau; ond os ydych yn gweld fel yr wyf i'n gweld, pan feddyliwch am Rowland, ei weld yn y pulpud yn pregethu a wnewch. Wrth reswm pawb, mae synnwyr yn dweud na all (ac na allai) neb bregethu mor angerddol ac mor gyrhaedd- gar ag y pregethodd ef heb ei fod yn y lie cyntaf yn adnabod anghenion yr enaid, ac y mae adnabyddiaeth fel honno'n hawlio myfyrio mawr: eithr myfyrio mawr ar neges sylfaenol yr Efengyl nid o raid ar hafnau'r hunan. Argrafrwyd y darluniau cameo uchod o Harris a Williams ar ein meddyliau gan wasgfa'r dystiolaeth amdanynt. Nid oes un dystiolaeth am Rowland mor gyson nac mor gyfoethog a'r dystiolaeth amdano'n wr ar goedd. Yn wir, bron na ddywedaf nad oes ar gael yr un dystiolaeth arall amdano.