Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

IEUAN GWYLLT A CHANU'R CYMRY* Rywbryd yng nghanol chwedegau'r ganrif ddiwethaf aeth bachgen bach i gymanfa ganu yn y Capel Mawr, Llanrwst, a chael yno brofiad nad yw'n ddieithr i lawer ohonom, sef na allai gymryd at yr arweinydd o gwbl: Prin y teimlwn ar fy nghalon ganu i'r fath ddyn. Yn He gwen galonogol ein "Mistar Williams ni" [sef William Williams, ysgolfeistr a hyfforddwr dosbarth canu], fe edrychai'n sarrug ac awdurdodol arnom. Y tebyg yw bod ein canu'n bur wael; ond yr oedd ei lygaid llym, ael-guchiog, ei bryd tywyll, a'i eiriau brathog, yn fy 'ngyrru i 'nghragen', ac ni chefais hwyl yn y byd ar ganu alto iddo. Y bachgen bach oedd John Lloyd Williams (1854-1945), a ddaeth maes o law yn Athro Llysieueg ym Mhrifysgol Cymru, yn sylfaenydd Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru, ac yn olygydd cylchgrawn YCerddor; yr arweinydd oedd Ieuan Gwyllt. Y mae'n hawdd cydymdeimlo ag ymateb J. Lloyd Williams iddo, oherwydd pa olwg bynnag a gawn ni o hyd ar Ieuan, y mae fel petai'n gwgu arnom: dyn llym, syfér, a'i safonau ym mhob dim yn uchel; beirniad, diwygiwr a gweithiwr diflino; 'a very holy man indeed', yng ngolwg aelodau o'i deulu.2 Y mae'n anodd ei weld yn gymeriad atyniadol, fel yr awgryma David Beynon, a fu'n gymydog agos iddo ym Merthyr: Yr oedd tipyn o humour ynddo, ond nid llawer; ac am siarad gwag, dibwrpas, nid oedd yn yr un byd ag ef 3 Pan ysgrifennai i'r Traethodydd ai i'r afael a thestunau trwm: 'Poen', 'Yr Athraw rhyfel', 'Bywyd ac anllygredigaeth', 'Yr offeiriadaeth'. Y mae'n hawdd deall paham nad yw ymhlith y cewri o'r ganrif ddiwethaf y byddwn yn dal i'w harddel yn gyson yn fawrion y genedl. Y mae gan ein hoes ni fwy o gydymdeimlad ag apostol heddwch fel Henry Richard nag apostol canu cynulleidfaol fel Ieuan Gwyllt. Ffasiwn ein meddwl modern yw condemnio'r cerddorion a 'laddodd' gerddoriaeth draddodiadol Cymru trwy ailgyfeirio sylw'r werin o 'ganiadaeth wag, ysmala, ddigrifol,4 at emyn, anthem, rhangan, cantawd ac oratorio. Eto i gyd, er gwaethaf y llymder, a'r cuchio, a'r diffyg hiwmor, haedda Ieuan Gwyllt ein parch a'n sylw yn rhinwedd ei waith mawr a'i ddylanwad ar ei oes; oherwydd pan ddathlwyd canmlwyddiant ei eni ym 1922 yr oedd cerddorion Cymru yn gytun ei fod yn un o gymwynaswyr gorau'r genedl. Ceisio edrych a wnawn ni yn y ddarlith hon ar natur ei gymwynas. *Traddodwyd y ddarlith hon gerbron aelodau'r Gymdeithas yn Aberystwyth ar 18 Tachwedd, 1989.