Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ADOLYGIADAU/REVIEWS LLANBEDR PONT STEFFAN A RHAN UCHAF DYFFRYN TEIFI MEWN HEN LUNIAU/LAMPETER AND THE UPPER TEIFI VALLEY IN OLD PHOTO- GRAPHS, Adran Gwasanaethau Diwylliannol Dyfed/Alan Sutton Publishing, Stroud, 1990. £ 7.95. Llanbedr Pont Steffan a rhan uchaf Dyffryn Teifi mewn hen luniau yw un o'r ddwy gyfrol ddiweddaraf mewn cyfres a gyhoeddir ar y cyd gan Adran Gwasanaethau Diwylliannol Cyngor Sir Dyfed a Chwmni Alan Sutton Publishing, Stroud, swydd Gaerloyw. Mae'r Hall yn ymdrin a glannau afon Cleddau yn yr hen sir Benfro. Ym 1989 cyhoeddwyd cyfrolau tebyg ac o'r un maint yn ymwneud ag ardaloedd Aberteifi a Chaerfyrddin. Daeth y math hwn o gyfrol yn boblogaidd dros yr ugain mlynedd diwethaf yn sgil newidiadau yn nhechneg argraffu, a chyhoeddwyd nifer o weithiau cyffelyb yn ymwneud ag ardaloedd eraill yn Nyfed. Ymhlith y goreuon y mae Dyffryn Aman 'Slawer Dydd (1987), David A. Evans a Huw Walters, a Llandovery Album (1985), Darrell Kingerlee. Yn dilyn rhagymadrodd byr dosbarthwyd y Iluniau yn 61 chwech o ardaloedd: (1) Llandysul (2) Tregroes, Pont-sian, Llanwnnen, Cwrtnewydd (3) Llanybydder, Pencader, Llanllwni (4) Llanbedr Pont Steffan (5) Cribyn, Silian, Llanddewibrefi, Llanio (6) Tregaron, Pontrhydfendigaid, Ystrad-fflur. Gydag ardal mor eang tybiaf fod y drefn hon yn fwy addas na rhaniad thematig a geir, er enghraifft, yng nghyfrol Howard C. Jones, Aberystwyth Yesterday (1980). Mae'r Iluniau a ddewiswyd gan y golygyddion i'w cynnwys yn y gyfrol yn gymysgedd o'r cyfarwydd a'r anghyfarwydd a llwyddwyd i bortreadu sbectrwm eang o weithgareddau'r gymdeithas dros gyfnod sylweddol o amser. Er bod yr ardal er dechrau'r ugeinfed ganrif yn frith o dimau pel-droed tebyg i'r enwog 'Bryncoch United', gwan braidd yw'r sylw a roddir i chwaraeon yn y gyfrol. Ond nid dyma fy unig feirniadaeth. O'i chymharu a llawer o gyfrolau tebyg y mae un gwendid amlwg iawn yn fy nharo. Mewn nifer o achosion y mae'r disgrifiadau a ddarperir o dan y lluniau yn denau iawn, a gwelir tuedd cyson i dderbyn yr hyn sydd wedi ei nodi ar lun fel gwybodaeth hollol ddibynadwy heb wneud ymchwil bellach i gadarnhau ei gywirdeb. Yn ogystal mae'r golygyddion wedi colli sawl cyfle da i gynnwys gwybodaeth ychwanegol a fyddai'n ddefnyddiol neu'n ddiddorol i'r darllenydd. Synnais weld cynifer o luniau lie tybiwn na fyddai anhawster mawr i'w dyddio, neu oni fyddai'n bosib gwneud hynny'n fanwl, i roi, o leiaf, syniad gweddol o'u cyfnod. Carwn nodi rai enghreifftiau o'r hyn sydd gennyf dan sylw, a chyfyngaf fy sylwadau i'r ddwy ardal sydd fwyaf cyfarwydd i mi, sef Llandysul a Thregaron. Ar dudalennau 12-13 mae'r disgrifiad 'Stryd Fawr/Main Street' yn Llandysul yn gamarweiniol. Onid 'High Street' sy'n gywir fel disgrifiad o'r uchaf o'r ddau lun ar dudalen 12?; 'Wind Street' (rhan ddeheuol y stryd sy'n rhedeg drwy ganol y dref) yw'r isaf o'r ddau lun ar y tudalen, a byddai'n werth nodi mai Siop Gwasg Gomer a welir ar y chwith. 'Lincoln Street' (rhan ogleddol y brif stryd) a bortreedir yn y ddau lun a welir ar dudalen 13. Nid yw 'Ceredigion Library' yn gyfeithiad cywir o Lyfrgell Ceredigion (t. 24)­Cardigan- shire Joint Library a ddefnyddiwyd hyd at ad-drefnu llywodraeth leol ym 1974. Gwelir yr un camgymeriad ar dudalen 154. Nid yw'r disgrifiad 'Barod am y Gem Fawr 1930au' (t. 28) yn llawer o gymorth i'r darllenydd. Tybed ai'r gem dan sylw yw'r un draddod- iadol a chwaraewyd rhwng timau'r plwyfi cyfagos ar Sadwrn Calan Hen? A rhag ofn i'r