Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

darllenydd chwilfrydig fynd i chwilio am dy Phillips Bach (t. 29), y ty lleiaf yng Nghymru, dylid fod wedi nodi ei fod wedi ei chwalu bellach. Erbyn heddiw yno y saif un o gyfleusterau cyhoeddus y dref! Parthed Tregaron, ni welais, ac ni chlywais erioed y ffurf 'Einion Bridge' ar Bont Einion (t. 138). Ymddengys fod y disgrifiad 'View from Picca' (t. 139) wedi ei dderbyn fel un cywir oherwydd mai dyna a argraffwyd ar y cerdyn post gwreiddiol. 'Pen Picca' yw'r enw cyfarwydd a ddefnyddir ar lafar wrth gyfeirio at y bryn y tu cefn i Westy'r Talbot, ond clywais y ffurf 'Picca Bach' o bryd i'w gilydd gan rai trigolion. Cofiaf gael cerydd cyfeillgar gan y diweddar Mr. D. Caronian Jones am ddefnyddio'r ffurf 'Stryd y Capel' (t. 139) mewn rhifyn o'r Barcud-mynnai mai 'Heol Ty Cwrdd' oedd yn gywir. Ni fyddai wedi bod yn anodd i ddyddio achlysur agor Ysgol Gynradd Tregaron, sef 1913 (t. 145), ac er mwyn cysondeb dylid fod wedi cynnwys dyddiadau Ebenezer Richard (1781-1837) ar dudalen 146. 20 Chwefror 1953 oedd dyddiad agor Cangen Tregaron o Lyfrgell Ceredigion (t. 154). Agorwyd Ysgol Castell Flemish ar 6 Ionawr 1879 ac nid ym 1878 (t. 155), a gellid bod wedi nodi mai Crochendy Tregaron sy'n defnyddio'r adeilad er 1968. A byddai cynnig esboniad ar darddiad yr enw wedi ychwanegu at werth y disgrifiad. Yn 61 traddodiad, y brenin Harri I a blannodd gymuned o Fflemisiaid yn yr ardal ar ddechrau'r ddeuddegfed ganrif i gryfhau ei afael ar y darn hwn o dir. Ond mae'r castell ei hun, wrth gwrs, yn dyddio o Oes yr Haearn. Er imi nodi rhai gwendidau yn y disgrifiadau, mae hon yn gyfrol werthfawr a fydd yn sicr o roi pleser mawr i drigolion yr ardaloedd dan sylw. (Yn wir, mae'n gylch mor eang fel y byddai map wedi bod o gymorth efallai). Mae safon yr atgynyrchiadau yn dda, a'r argraffu'n gywir-yr unig wall difrifol a welais yw'r toriad anffodus yn Llanddewibrefi (Llandde-wibrefi) ar dudalen 135, o dan lun teulu'r diweddar Mr. Alun R. Edwards. Ond fe fyddai Mr. Edwards, a wnaeth gymaint i hybu gweithgareddau diwylliannol tra oedd yn bennaeth Llyfrgell Ceredigion a Llyfrgell Dyfed, wedi bod yn falch o weld parhad y traddodiad y rhoddodd yntau gymaint o bwyslais arno yn ystod ei yrfa ddisglair a dylanwadol. Ond rwy'n siwr y byddai efhefyd wedi disgwyl mwy o ofal gyda'r gwaith paratoi, a thipyn mwy o gig ar yr esgyrn sychion disgrifiadol. RICHARD E. HUWS Aberystwyth THE GATEWAY TO WALES: A HISTORY OF CARDIGAN, W. J. Lewis, Dyfed County Council Cultural Services Department, 1990. 160pp. £ 7.95. In reading W. J. Lewis's bulky and comprehensive study of the town of Cardigan, one cannot help wondering why it is that a coastal centre of such importance has not previously been the subject of a work on this scale. Such ponderings, indeed, raise the question of the whole attitude of the academic establishment towards local studies which, all too often, views such efforts with less enthusiasm than those of historians painting on a broader canvas. This being the case, the Cultural Services Committee of the Dyfed County Council is to be congratulated on the support and encouragement given to Mr. Lewis, and it is to be hoped that its example will be emulated by kindred bodies in the future. Having dismissed the early history of the town in a matter of five pages of standard fare and described the Priory, St. Mary's Church and St. Dogmael's Abbey, Lewis