Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ADRODDIAD BLYNYDDOL AR GYFER 1990 Trefnwyd pum cyfarfod yn ystod 1990. Dilynwyd y cyfarfod blynyddol ar 31 Mawrth gan ddarlith Dr. Eurwyn Wiliam o Amgueddfa Werin Cymru ar 'Home-made homes- the smaller houses of Wales'. Yn Llanbedr Pont Steffan ar 5 Mai disgrifiodd Dr. Barry Burnham o Adran Archaeoleg Coleg Dewi Sant waith cloddio diweddar ym Mhumsaint a gyfarwyddwyd ganddo. Treftadaeth gelfyddydol yr hen sir oedd testun darlith Mr. Peter Lord ar 6 Hydref o dan y teitl "Poor benighted traveller" -yr arlunydd a nawdd yng Ngheredigion'. Ar 27 Hydref cafwyd darlith gan y Parchedig Ddr. David H. Williams ar 'Excavations at Strata Florida Abbey and the life and work of Stephen Williams'. Bu Dr. David J. V. Jones o Adran Hanes, Coleg Prifysgol Abertawe, yn darlithio ar 'Rebecca, Crime and Society' ar 24 Tachwedd, a chynhaliwyd cyfarfod olaf y Gymdeithas yn ystod y flwyddyn ar 8 Rhagfyr, pan fu'r Athro Derec Llwyd Morgan yn annerch ar 'Daniel Rowland (?1711-1790): Diwygiwr' yng Nghapel Gwynfil, Llangeitho, safle capel Daniel Rowland ei hun. Daeth cynulleidfa dda i'r rhan fwyaf o'r cyfarfodydd, ond bu'n rhaid gohirio'r daith i ardal Pumsaint ym mis Mai. Y mae'r Gymdeithas yn ddiolchgar i bawb sy'n cefnogi ei gweithgareddau, yn arbennig i Dr. John Owen a'i staff yn Amgueddfa Ceredigion am eu cymorth di-ffael. Cyfarfu'r Pwyllgor Gwaith ddwywaith yn ystod y flwyddyn. Penderfynwyd ym 1989 i gyhoeddi'r Mynegai i Ceredigion I-X a daeth y gyfrol o r wasg ym mis Medi 1990. Gwnaed y cyhoeddiad yn bosib drwy gefnogaeth hael Cyngor Dosbarth Ceredigion, Cyngor Sir Dyfed ac Ymddiriedolaeth Catherine a'r Fonesig James, ynghyd a thanysgrifiadau aelodau. Yng nghyfarfod mis Rhagfyr cyflwynwyd copiau rhwymedig i'r noddwyr a chyflwynwyd cyfrol rwymedig ynghyd a honorarium i Olygydd y Mynegai, Mr. William Howells. Erbyn diwedd y flwyddyn yr oedd tua 250 o gopiau wedi eu dosbarthu a pheth elw yn y coffrau. Croesawyd Uwyddiant y Mynegai, ond y mae cyhoeddi Hanes y Sir yn fenter Uawer mwy uchelgeisiol. Ar ddiwedd y flwyddyn yr oedd y gwaith ar Gyfrol I yn tynnu at ei derfyn ac yr oedd y Golygyddion, Dr. Jeffrey L. Davies a Dr. D. P. Kirby, yn gobeithio anfon y testun at yr argraffwyr yn ystod 1991, gan anelu at gyhoeddi'r gwaith ym 1992. Dan olygyddiaeth yr Athro Geraint H. Jenkins mae Ceredigion, Cylchgrawn y Gymdeithas, yn parhau'n gyhoeddiad sylweddol sy'n ymddangos yn rheolaidd ar ddiwedd pob blwyddyn. Mae Ceredigion yn ffynnu, ond mae costau argraffu yn parhau i gynyddu ac unwaith eto nid oedd y tanysgrifiadau blynyddol yn ddigonol i dalu am gynhyrchu a dosbarthu'r Cylchgrawn. Ymddengys y bydd cynnydd sylweddol yn y tanysgrifiad yn anorfod os yw gwaith y Gymdeithas i barhau.