Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TIMOTHY REES, C.R., ESGOB LLANDAF 1931-9* Yn y Llain ym mhlwyf Llanbadarn Trefeglwys y ganed Timothy Rees ar 15 Awst 1874, yn fab i'r Capten David Rees, Master Mariner a'i wraig, Catherine, merch David Jones, Rhiw-wen yn yr un plwyf. Ac yn y Llain, ar 3 Medi 1874, y bedyddiwyd ef, a hynny gan y Parchedig R. Rowlands, gweinidog eglwys Annibynnol Nebo. Y cysylltiad a Nebo yw'r sail i'r gosodiad a wnaed gan lawer un pan fu Timothy Rees farw'n esgob, mai o gefndir Anghydffurfiol y daethai: yn ol 'Listener In' y Western Mail, bu ganddo'n ieuanc obeithion am fynd yn weinidog gyda'r Annibynwyr, ond gwadwyd hynny'n bendant gan ei frawd, a dywedodd hwnnw yn y Cofiant mai eglwyswyr oedd ei rieni, ond iddynt fynychu capel Nebo am fod yr eglwys agosaf dair milltir o'r Llain, yn y cyfnod hwnnw cyn codi Eglwys Dewi Sant, 'yr eglwys sine' ar lafar y fro. Ond yr oedd elfen Annibynnol yng nghefndir mam yr Esgob. Fe fu brawd i'w mam hi, Timothy Evans, yn weinidog yn eglwys Annibynnol y Plough, Aberhonddu, o 1826 nes troi at yr Eglwys ym 1838, a mynd yn gurad yn Llanddewibrefi; bu farw ym 1851, ac yn 61 Enwogion Ceredigion Gwynionydd, 'ystyrid ef yn bregethwr tra rhagorol, ac yn wr hawddgar mwy na'r cyffredin'. Nid yn ei enw yn unig yr oedd Timothy Rees yn debyg i'w hen-ewythr, fel y ceir gweld. Gellir credu fod yr elfen eglwysig yn gryfach ar ochr Capten Rees; ac mae'n glir hefyd ei fod ef a'i wraig yn perthyn i ddosbarth y ffermwyr mwyaf sylweddol. Cafodd y Capten swyddi cyfrifol ar y mor yn bur ieuanc, a gallodd fforddio talu am addysg i un (o leiaf) o'r plant. Timothy oedd hwnnw, ac ef oedd yr ieuangaf o'r plant. Adeg Cyfrifiad 1881, pan oedd ef yn chwech oed, roedd ei dad yn 43 oed, ac yn digwydd bod gartref. Nid felly'r mab hynaf, David, a oedd yn 21; diau ei fod ef ar y mor ar y pryd: pasiodd yntau'n gapten ym 1884, ac ef oedd y Capten Rees y soniodd Prosser Rees amdano yn y Faner, adeg marw'r Esgob, fel un a barhaodd yn Annibynnwr ar hyd ei oes. Ef oedd yn byw yn y Llain ym 1929. Aeth y trydydd mab, Steven, i'r mor hefyd wedi hynny, a phasio'n gapten ym 1891; ym 1881 roedd yn dair ar ddeg, a'r unig ferch, Catherine, yn naw; ac roedd y ddau hyn, gyda Timothy, yn schoolars (sic) yn ysgol Cross Inn, mae'n sicr. A diau mai yno hefyd yr oedd yr ail fab, John, yn pupil teacher ac yn 18 oed: ef a olygodd Cofiant ei frawd. *Testun darlith a roddwyd yn Eglwys Llanbadarn Trefeglwys, 8 Medi 1989, dan nawdd Cymdeithas Gymraeg yr Eglwys yng Nghymru, sydd yma, wedi'i ddiwygio ychydig. Y cofiant Timothy Rees of Mitfield and Llandaff, a olygwyd gan ei frawdj. Lambert Rees, yw ffynhonnell y ffeithiau na roddir cyfeiriad ar eu cyfer.