Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ADRODDIAD BLYNYDDOL AR GYFER 1991 Trefnwyd wyth cyfarfod yn ystod 1991, gan ddechrau gyda'r cyfarfod blynyddol ar 20 Ebrill. Etholwyd Mrs. Mary Burdett-Jones yn Ysgrifennydd Mygedol Teithiau ac ailetholwyd y swyddogion eraill. Traddodwyd darlith ar gymdeithas amaethyddol y sir yn ystod y ddeunawfed ganrif gan Dr. David Howell. Daeth dros gant o aelodau ar y daith flynyddol, gan ymweld a Llannerch-Aeron, plasty a gynlluniwyd gan John Nash ac a oedd newydd ei drosglwyddo'n gymunrodd i'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol, a hefyd a'r bwthyn cyntefig yn Llan-non sydd wedi'i adfer gan Amgueddfa Ceredigion. Anerchwyd y cyfarfod gan Mr. Peter Smith a Mr. Richard Keen. Ar 29 Mehefin, yng Ngholeg Prifysgol Dewi Sant, Llanbedr Pont Steffan, bu Ms. Astrid Caseldine a Dr. Martin Bell yn disgrifio'r gwaith o archwilio cyn-hanes Cymru drwy dechnegau gwyddonol o astudio gwrthrychau'r amgylchfyd, a chafodd aelodau gyfle i weld y gwaith. Trefnwyd cyfarfod ar y cyd gyda Capel yn Llwynrhydowen ar 13 Gorffennaf, pan siaradodd y Parchedig Athro Elwyn Davies ar 'Llwynrhydowen: Canolfan Radical- iaeth'. Ar 21 Medi traddodwyd darlith ar fywyd cynnar Dr. Gwenan Jones gan Dr. Nerys Ann Jones. Ar 2 Hydref disgrifiodd Mr. Chris Musson rai o'r technegau a ddefnyddir wrth dynnu lluniau archaeolegol gan ddefnyddio awyrennau, ac ar 16 Tachwedd darlithiodd Dr. Kathryn Jenkins ar 'Pantycelyn a'r Cardis' i goffau marwolaeth William Williams, Pantycelyn, ym 1791. Cynhaliwyd cyfarfod olaf y flwyddyn ar 7 Rhagfyr pan fu Dr. John Davies yn annerch ar waith Cyngor Sir Ceredigion yn y cyfnod rhwng y rhyfeloedd. Cynhaliwyd pump o'r cyfarfodydd yn Amgueddfa Ceredigion, Aberystwyth, ac mae'r Gymdeithas yn gwerthfawrogi cefnogaeth gyson yr Amgueddfa yn fawr. Yn ystod y flwyddyn cyfarfu'r Pwyllgor Gwaith ddwywaith; cyfarfu Bwrdd Golygyddol Hanes Sir Geredigion ddwywaith yn ogystal, ac adroddwyd gan gyd-olygyddion Cyfrol I bod testun y gyfrol yn barod i'w anfon i'r wasg. Cytunodd y Pwyllgor Gwaith y dylai Gwasg Prifysgol Cymru gyhoeddi' r gwaith ar ran y Gymdeithas, gyda Gwasg Gomer yn argraffu ac yn rhwymo'r gyfrol. Bydd cyfle i aelodau danysgrifio i'r fenter uchelgeisiol hon a disgwylir i'r gyfrol, y gyntafo dair, ymddangos yn gynnar ym 1993, ffrwyth llafur blynyddoedd lawer. Yn y Cyfarfod Blynyddol penderfynwyd codi tanysgrifiad y Gymdeithas o £ 5.00 i £ 7.00 (o £ 6.50 i £ 8.00 i barau). Bu treuliau'r Gymdeithas yn uwch na'i derbynion ers rhai blynyddoedd ac yr oedd yn hen bryd cynyddu'r tanysgrifiad. Er hynny, bu'r ymateb yn siomedig: ymddiswyddodd llawer o'r aelodau ac ar ddiwedd y flwyddyn yr oedd nifer yr aelodau a oedd wedi talu'r tanysgrifiad llawn wedi disgyn o tua 500 i lai na 300. Mae anfodlonrwydd rhai aelodau i dalu drwy archeb bane neu i ymateb i lythyrau yn peri llawer o waith di-angen i'r Ysgrifennydd Aelodaeth. Mae'r Gymdeithas bellach yn cynnig i'w haelodau amgenach darpariaeth nag erioed o'r blaen: cylchgrawn graenus a sylweddol a gyhoeddir yn gyson, rhaglen flynyddol o gyfarfodydd sy'n denu cynull- eidfaoedd da, a'r cyfle i sicrhau copi o Hanes y Sir a fydd yn dod ag urddas ac ysgolheictod newydd i hanes yr ardal. Mae cost cyhoeddi a dosbarthu pob rhifyn o Ceredigion bellach yn agos at £ 4000, swm sy'n bell uwchlaw cyfanswm y tanysgrifiadau blynyddol. Oni ellir perswadio'r aelodau i gyfrannu'r arian hwn drwy danysgrifiad, yna bydd yn rhaid cwtogi ar weithgareddau'r Gymdeithas, yn arbennig cyhoeddi Ceredigion.