Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

TWF A DIFLANIAD YSTADAU DYFFRYN YSTWYTH Ffurfiwyd patrwm perchnogaeth tir yng Ngheredigion, fel ymhob man arall yng Nghymru, i raddau sylweddol trwy'r broses o greu stadau: rhai mawr, megis Trawsgoed, Gogerddan, Bronwydd, a rhai llai, megis Greengrove, Allt- lwyd a Llidiardau. Y mae cof gwlad yn dal yn gyforiog o atgofion (a chwilfrydedd) am y stadau hyn a'u perchnogion, a chan fod dylanwad y tirfeddianwyr mor drwm ar bobl a gwlad fel ei gilydd, hawdd fyddai tybio mai rhyw greadigaeth unwaith-ac-am-byth oedd trefn y stadau, a'i bod wedi darfod (fwy neu lai) unwaith ac am byth yn ystod y can mlynedd diwethaf. Ond nid felly yr oedd pethau. Yr oedd y prosesau o dyfiant yn parhau hyd y ganrifhon, a'r broses o ddirywiad wedi dechrau yn oes Elisabeth I, os nad cyn hynny. Y mae modd olrhain y prosesau diddorol hyn trwy chwilio'r archifau, a thrwy hynny sylweddoli fod yna sawl dull o gynyddu stad, a sawl modd i'w cholli. Dirywiodd yr hen batrwm perchnogaeth tir trwy gydetifeddiaeth yn ystod ac wedi cyfnod y goresgyniad. Yr oedd sawl dull o sicrhau a datblygu tir: trwy ladrad, trwy etifeddiaeth, trwy briodas, trwy brynu, trwy forgais, trwy swydd a thrwy amgaead. Nid yw'n hawdd darganfod y dystiolaeth i bob un o'r dulliau hyn; yn achos lladrad, rhaid dibynnu ar dystiolaeth amheus chwedlau a geid ar lafar gwlad. Canolfan fy ymchwil fu dyffryn Ystwyth, gogledd Ceredigion, ond ni chedwais yn gaeth i'r ardal gul, ond dewis engreifftiau o ardal helaethach hefyd. Ni ellid disgwyl fod tystiolaeth yn aros i brofi fod tiroedd wedi cael eu lladrata'n llwyddiannus. Ond y mae ffynhonnell arall yn awgrymu beth allasai fod yn bosibl. Y mae chwedl werin yn dal ar dafod lleferydd yn ardal Pont- rhyd-y-groes sy'n awgrymog iawn. Yn 61 yr hanes, yr oedd dwy wraig yn byw mewn bwthyn gyda llain o dir gerllaw hen fferm Maenarthur. Yr oedd Maenarthur yn eiddo Fychaniaid Trawsgoed, a hwythau'n edrych yn eiddgar ar y bwthyn a'i dir, ond yr oedd y ddwy wraig yn anfodlon gwerthu. O'r diwedd dyna deulu Trawsgoed yn estyn gwahoddiad i'r plas, a'r ddwy wraig yn derbyn, ac yn cael croeso cynnes a gwledd yno. Ond wrth ddychwelyd adref, prin iddynt ddisgyn o'u ceffylau cyn bod gweision Trawsgoed yn cyrraedd, ac yn mynnu yn chwyrn bod pethau arian wedi cael eu dwyn o'r plas, a bod gwragedd dan amheuaeth; rhaid chwilio cyfrwyau'r ceffylau. Cydsyniodd y ddwy wraig ddiniwed, ond mawr oedd eu gofid pan gafodd y gweision hyd i drysor yn y