Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CREFFTWR 0 ABERYSTWYTH YN NE AFFRICA Fe gyhoeddir yma lythyr a ysgrifennwyd gan wr o Aberystwyth a oedd yn dilyn ei grefft yn Ne Affrica ym mlynyddoedd canol teymasiad Edward VII. John Jenkins oedd yr ieuangaf o dri mab ei dad, o'r un enw, gwr y ceir ychydig o'i hanes yn llyfr Dr Moelwyn Williams, Y Tabernacl, Aberystwyth. Unig fab i forwr (David Jenkins, a'i wreiddiau tua Chwmystwyth) a merch morwr (Jane Rees) oedd John Jenkins y tad; ganwyd ef ym 1840, a bu'n flaenor yn y Tabemacl am dros ddeugain mlynedd, gan farw ym 1926. Gwelir ei lun gyda'i gyd-flaenoriaid2 yn y llyfr-yn batriarch barfog cydnerth: ac yn 61 yr hanes, roedd yn wr o ddoethineb ymarferol a fyddai'n dweud ei feddwl heb flewyn ar dafod.3 Aeth ei fab hynaf (David, 1873-1959) i'r mor, yn beiriannydd ar longau'r cwmnïau a gysylltir yng Ngheredigion a'r enw Mathias.4 Ond trin coed oedd crefft y tad, a'r ddau fab arall: pan gyrhaeddodd y fusnes Kelly's Directory, 'Jenkins J. & Sons, carpenters, 21 Bridge Street' oedd y cofnod, ond joiner oedd y tad yn 61 Cyfrifiad 1881. Tebyg mai fel seiri y sonnid amdanynt yn gyffredin yn Gymraeg, er bod y gair asiedydd ar gael; ond a bod yn fanwl, gwaith carpenter a wneid wrth godi neu atgyweirio ty, dyweder, a gwaith joiner wrth wneud dodrefn ac eirch. Roedd y gweithdy yn Heol y Bont (lie y mae siop Konica Peter Llewellyn bellach) yn ymestyn y tu 61, gyda mynediad o'r cefn i'r cartref yn L6n Rhosmari-er mai 'John Jenkins Princess Street' a etholwyd yn flaenor yn y Tabernacle Bu'r ail fab, Edward, yntau'n flaenor yn y Tabemacl o 1938 hyd ei farwolaeth ym 1957, a chafodd y He yn y set fawr a lenwid gan ei dad am lawer blwyddyn; ond yn ei grefft yn unig y cafodd y mab ieuangaf ddilyn ei dad, gan iddo farw cyn cyrraedd ei hanner cant. Fe'i ganwyd ar 4 Chwefror 1879, ac erbyn 1896 yr oedd yn grefftwr celfydd: mae gan ei ferch ddarn hynod o'i waith, a wnaed yn y flwyddyn honno-sef copi ar raddfa fach o gistan drârs, deuddeg modfedd a hanner o led, chwech a chwarter o ddyfnder, a deuddeg o uchder. Cafodd y gwaith wobr a chanmoliaeth haeddiannol mewn cystadleuaeth ar y pryd. Ym mhen rhyw naw mlynedd wedi hynny yr aeth ef allan i Dde Affrica, lle'r oedd John Rees, perthynas iddo drwy fam ei dad, wedi mynd o'i flaen: fel y gwelir wrth ei lythyr, byddai wedi glanio yn Durban ym Medi 1905, aeth at John Rees yn Pretoria a chael gwaith yno'n fuan, ac yno y bu tan wanwyn 1908. Byddai wedi hoffi aros yno; ond gan nad oedd ei ddarpar-wraig yn fodlon