Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

mynd yno i fyw, daeth ef yn 61 i Aberystwyth, a phriodwyd hwy 21 1 Ebrill 1908. Margaret Ellen Evans oedd ei wraig. Edward Evans, saer maen a gododd lawer o dai yn Aberystwyth, oedd ei thad, gwr a chanddo bump o ferched a dau fab. Bu'r ferch hynaf, Anne Jane (1878-1903) yn genhades ar Fryniau Casia gyda'i gwr, y Parch. Owen Evans o Landderfel, a bu farw yno ar enedigaeth plentyn a fu farw hefyd. At fy mam, Elizabeth (1880-1965) yr ail ferch, yr ysgrifennwyd y llythyr; fy nhad yw'r Mr W. Jenkins y cyfeirir ato yn y llythyr. Margaret Ellen (1881-1968) oedd y drydedd ferch. Gartref yn ddi-briod y bu Emily (1884-1955); priododd Sophia (1885-1957) a T. 0. Pierce o Lanllechid, a ddaeth yn athro i Ysgol Sir Aberystwyth pan oedd hithau yn y chweched dosbarth: gorfennodd ef ei yrfa yn brifathro Ysgol Sir Pwllheli. Aeth y mab hynaf, Edward David (1887-1916) o swydd mewn banc i'r fyddin ar ddechrau'r Rhyfel Mawr, a Iladdwyd ef ym mrwydr y Somme. Gwnaeth yr ail fab, John Jenkin (1889-1984) ei brentisiaeth gyda gweithwyr ei dad, ond troi wedyn at waith sanitary inspector, gyda Chyngor Dosbarth Mynyddislwyn, ac wedi hynny Cyngor Sir Fynwy. Athrawes babanod oedd Margaret Evans, wedi dilyn cwrs hyfforddi yng Ngholeg Prifysgol Cymru. Bu'n athrawes yn Llannerch-y-medd ym Môn ac wedyn yn y Rhondda Fach (Tylorstown): yno yr oedd hi adeg ysgrifennu llythyr hwn at ei chwaer, ond nid yw'r llythyron a ysgrifennodd John Jenkins ati ar gael. Wedi priodi, rhoddodd heibio swydd athrawes yn 61 y drefn, ond daliodd i arfer ei dawn yn athrawes ar ddosbarth y babanod yn Ysgol Sul y Tabemacl am flynyddoedd. Cafodd ei gwr gyfnodau o waeledd difrifol o 1924 ymlaen, a bu farw 12 Mawrth 1928. Wedi i'w hunig ferch fynd i swyddi tua Llundain, symudodd hithau i Lundain yn 1938, ac yno bu hi farw ym 1968. Aberystwyth DAFYDD JENKINS P.O. Box 1116 Pretoria Chwef. 7 fed 06 Anwyl Miss Evans Dyma fi or diwedd yn sgrifenu attoch wedi bwriadu lawer gwaith or blaen, roedd Mag yn dweyd eich bod yn barod i agor ei llythyr hi pan gartref