Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cyn y Diwygiad Protestannaidd ac ar ei 61 y gellir tybied mai eglwyswyr oeddynt, yn ogystal a'r rhai a oedd yn blant i eglwyswyr. Y mae rhai oho- nynt yn feirdd o wir bwys ac wrth eu henwau gryn nifer o gerddi, megis Syr Dafydd Trefor o Lanallgo, Syr Huw Roberts Lien o Aberffro, Syr Owain ap Gwilym a Syr Rhys Cadwaladr, curad Llanfairfechan. Priodolir i'r rhain dros hanner cant o gerddi yr un. Y mae eraill nas adweinid wrth unrhyw deitl eglwysig swyddogol. Yr oedd eu cyfraniad hwythau yn un sylweddol ond nid yw'n eglur ym mhob achos ai gwyr wrth grefydd oeddynt ai peidio.4 Bardd oedd Syr Phylib o Emlyn a berthynai i'r cylch o'r gwyr wrth grefydd a ymddiddorai yng nghrefft cerdd dafod. Ac eithrio un awdl, cerddi ar destunau secwlar a geir ganddo. Y mae hyn yn nodweddiadol hefyd o nifer o'r beirdd-offeiriaid y cadwyd eu gwaith i ni. Nid gan glerigwyr y cyfhod hwnnw y ceir y cerddi crefyddol pwysicaf; a barnu wrth dystiolaeth y llawysgrifau, lleygwyr a gynhaliai'r traddodiad defosiynol barddol gan mwyaf. Ond er ei fod yn offeiriad, ni ellir ond dyfalu pa swydd eglwysig a ddaliai Phylib, neu hyd yn oed a oedd ganddo swydd felly o gwbl. Nid yw'r teitl Syr yn dweud dim wrthym ynghylch ei statws canonaidd, ac ni wyddom ychwaith ai offeiriad ac iddo fywoliaeth, siantriwr, offeiriad cyflogedig (stipendiary) neu gurad ydoedd. Annhebyg y dylid cysylltu Phylib a chadeirlan,5 ac oherwydd natur fylchog cofnodion esgobaeth Tyddewi yn y bymthegfed ganrif ni lwyddwyd i ddarganfod cyfeiriadau ato mewn perthynas ag unrhyw blwyf arbennig; ond prin y gellir amau nad offeiriad ydoedd a berthynai i'r esgobaeth honno. Fel y mae'n digwydd, sonnir yn y ffynonellau am fwy nag un clerigwr o'r enw. Yn achresi'r Deheubarth a nodir gan Dr Peter Bartrum enwir un Syr Philip, person Bangor Teifi ap Phylip ap Dafydd ap Maredudd ap Rhys.6 Yr oedd Bangor Teifi yn sicr yng nghwmwd Emlyn, ond er mor atyniadol yw'r cofhod, mentrus fyddai honni mai'r clerigwr hwn oedd awdur y cerddi a ystyrir yma. Amcangyfrifir gan Dr Bartrum fod Phylib ap Phylib wedi ei eni c. 1500. Ond yn 61 rhestr o'r sawl a urddwyd yn hanner cyntaf y bymthegfed ganrif yn esgobaeth Tyddewi, gwnaed rhyw Philip ap Philip David yn acolit ar 6 Ebrill 1409. Un o bedair urdd lai yr hen gyfundrefh urddol oedd acolit, ac oherwydd nad ai'r sawl a berthynai i un o'r rhain o reidrwydd at urddau uwch, yn niffyg tystiolaeth ddiweddarach ni ellir gwybod a urddwyd y Philip hwnnw wedyn yn offeiriad.7 A bwrw na chymysgwyd rhyngddynt yn yr achau, os oedd mewn gwirionedd ddau offeiriad o'r un enw a thras yn y bymthegfed ganrif yn esgobaeth Tyddewi, rhaid cymryd bod floruit person Bangor yn rhy hwyr,