Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SEFYDLU YSGOL GANOLRADDOL YN ABERTEIFI, 1890-1898: "A DENOMINATIONAL VENTURE"? Wrth gyflwyno'i arolwg diweddar o hanes addysg yng Ngheredigion rhwng 1700 a 1974, daeth W. Gareth Evans i'r casgliad fod y ddarpariaeth wedi ei dylanwadu'n drwm gan nifer o ffactorau: 'Educational decision- making, the location of schools and colleges, as well as prevailing attitudes to schooling have been subject to the complex influences of the broader geo- graphical, religious, social, and political backdrop'.1 Mae dilysrwydd y dadansoddiad hwnnw yn cael ei ategu wrth olrhain ac ystyried rhai o'r dylanwadau pwysicaf fu ar hanes sefydlu Ysgol Ganolraddol yn nhref Aberteifi ym 1895 ac ar y dasg o weinyddu'r ysgol honno, a chodi adeilad pwrpasol iddi, rhwng 1895 a 1898. Bu'r Ysgol a'r gymuned yn Aberteifi yn dathlu canmlwyddiant agor yr adeilad hwnnw yn ystod y flwyddyn academaidd 1998-99 ac yn bwrw golwg ar yr hyn a gyflawnwyd gan yr Ysgol dros ganrif a mwy, mewn cyfres o ddigwyddiadau. Addas ac amserol felly yw cynnig dadansoddiad o rai o'r prif ddylanwadau ffurfiannol yn hanes cynnar sefydlu'r Ysgol. Teg yw dweud fod yr hanes wedi bod yn un lied gythryblus, ac i'r ymgyrch i sicrhau Ysgol Ganolraddol fod yn un anodd iawn ar brydiau. Mae'r hanes wedi ei groniclo yn llawn a bywiog yng ngholofnau'r papur lleol, The Cardigan & Tivyside Advertiser. Er fod llawer iawn o gynnwys y papur yn y cyfnod hwnnw o natur gyffredinol ac estron iawn gan fod cyfran sylweddol ohono wedi ei ddwyn i mewn o golofnau papurau newydd Llundain, cafodd hanes sefydlu'r Ysgol ac ymateb y gymuned i'r datblygiad pwysig hwnnw, sylw manwl a chyson. Cofnodwyd pob araith, dadl, penodiad a phenderfyniad, y rhai lled-ddibwys a'r tra phwysig. Bu'r papur yn gyfrwng i roi mynegiant i bob barn ac anghytundeb ar nifer fawr o bynciau yn ymwneud a sefydlu'r Ysgol. Mae'n bwysig nodi hefyd ei fod wedi cyflawni dyletswydd bwysig wrth gefnogi'r ymgyrch i sefydlu ysgol newydd, a bu'n gyfrwng gwerthfawr i gynnal ymwybyddiaeth y gymuned ac i hybu brwdfrydedd y dref a'r ardal ar adegau digon anodd yn hanes yr ymgyrch honno, pan oedd brwdfrydedd ar drai ac anghytundeb dybryd yn brigo i'r wyneb. Yn ystod 18902 mae'r papur yn cofnodi'r ffaith fod cyfarfodydd cyhoeddus wedi eu cynnal yn Neuadd y Dref (y Guildhall) i ystyried a thrafod y modd y dylid ymateb i'r cyfle i sefydlu ysgol newydd yn Aberteifi