Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

symudodd i Aberystwyth i sefydlu gwasg y Llyfrgell Genedlaethol newydd. Er amled y beirdd nid yw'r sir yn brin o lenorion o fri. Dyna Thomas Hughes Jones a anwyd ym Mlaenpennal. Cysylltir ei enw'n bennaf a maes y stori fer ac a nofel am y Rhyfel Byd Cyntaf, Amser i Ryfel. Ganwyd Elizabeth Mary Jones (Moelona) yn Rhydlewis. Cyhoeddodd nifer o nofelau a'r amlycaf efallai oedd y ddwy nofel i blant, Teulu Bach Nantoer a Bugail y Bryn. Brodor o Lanafan oedd Evan Thomas Griffiths ac er iddo gyhoeddi nifer o weithiau ysgolheigaidd yn adlewyrchu ei ddiddordeb mewn Cymraeg ac Eidaleg, fe'i cofir yn bennaf am ei gyfeithiad o lyfr plant o'r Eidaleg, sef Yr Hogyn Pren neu Helyntion Pinocio. Ganwyd John James Morgan yn Ysbyty Ystwyth a bu'n weinidog gyda'r Methodistiaid trwy ei oes hir. Yr oedd dawn arbennig ganddo i gasglu dywe- diadau pert a bachog, yn enwedig gan ei gyd-weinidogion, gwelir hynny'n amlwg yn y dair cyfrol o atgofion, A welais ac a glywais, a gyhoeddodd. Ysgrifennodd nifer o gofiannau diddorol hefyd, gan gynnwys, Cofiant Evan Phillips a Dafydd Morgan a Diwygiad '59. Cofir am David Lloyd Jenkins, a anwyd yn Llanddewibrefi, fel bardd, ond yr oedd hefyd yn awdur nifer o ddramau, yn enwedig rhai i blant. Fel ei frawd hyn, Griffith John Williams, ganwyd David Matthew Williams yng Nghellan. Cyhoeddodd nifer o ddramau o dan yr enw Ieuan Griffiths gan gynnwys Lluest y bwci a Ciwrat yn y pair. Beirniedid y Bywgraffiadur o'r dechrau am gynnwys gormod o weinido- gion. Efallai bod hyn yn annheg o gofio cyfraniad y weinidogaeth at bob agwedd o fywyd Cymru. Y mae enwau nifer helaeth o weinidogion a anwyd yn y sir yn y gyfrol o dan sylw a hynny am weithgareddau eraill heblaw am eu gwaith fel gweinidogion. Rhaid cyfeirio at un arall, John Evans, a anwyd yn Llangrannog ac a fu yn athro hanes yr Eglwys yng Ngholeg yr Annibynwyr yn Aberhonddu o 1901 i 1943. Bu'n dal i bregethu nes oedd yn 104 oed. Dylid cyfeirio hefyd at un nodwedd sydd yn debyg o fod yn uni- gryw i'r sir yma, sef nifer y gweinidogion gyda'r Undodwyr a gynhwysir. Dyma felly y rhai 'a adawsant enw ar eu hoi fel y mynegid eu clod hwynt'. Ond cofiwn gyda diolch am y rhai hynny a wnaeth diwmod da o waith dros lawer agwedd o'n diwylliant yn eu dydd, 'y rhai heb fod coffa amdanynt'. Aberystwyth T. GWYN DAVIES