Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

SANTESAU CEREDIGION1 Yn draddodiadol cyfeirir at y cyfnod sy'n ymestyn o'r bedwaredd i'r wythfed ganrif yng Nghymru fel 'Oes y Seintiau'.2 Yn 61 rhai ysgolhei- gion (er enghraifft, E.G. Bowen), dynoda'r term bwysigrwydd y seintiau Celtaidd, neu'r cenhadon Cristnogol, a deithiai dros foroedd y gorllewin er mwyn lledaenu'r ffydd Gristnogol yn y gwledydd Celtaidd.3 Ar y llaw arall, yn 61 ysgolheigion eraill (er enghraifft, Wendy Davies), dylid claddu'r term am byth, oherwydd ei fod yn gamarweiniol ac yn tueddu i ramanteiddio cyfnod annelwig yn hanes yr Eglwys Fore.4 Gelwir am ragor o waith archae- olegol ar safleoedd crefyddol yng Nghymru cyn y gellid taflu goleuni newydd ar hanes yr Eglwys Fore a chymharu'r sefyllfa yng Nghymru gyda gweddill y gwledydd Celtaidd. Bid a fo am ddilysrwydd y term 'Oes y Seintiau', y mae ysgolhei- gion yn gytun mai dyma'r cyfnod pan dreiddiodd Cristnogaeth i Gymru a'r gwledydd Celtaidd gan osod seiliau cadarn ar gyfer cwlt y seintiau. Daethpwyd a Christnogaeth i dde-ddwyrain Cymru gyda'r Rhufeiniaid. Merthyrwyd dau Gristion yng Nghaerleon yng nghanol y drydedd ganrif, y mae'n debyg, ac yn sicr trigai Cristnogion yng Nghaerwent yn y bedwaredd ganrif. Fodd bynnag, ymddengys na ddiwygiwyd gogledd a gorllewin Cymru tan y burned, chweched a'r seithfed ganrif pan ddechreuwyd codi cofebau Cristnogol i'r meirwon a cherrig gyda chroesau syml arnynt neu arysgrifen Ladin ac Ogam.5 Yn ei lyfr ar hanes Ceredigion gwel John E. Lloyd ddylanwad Gwyddelig ar yr Eglwys Fore yng Ngheredigion, yn enwedig yn ne'r sir, a chadarnheir pwysigrwydd y dylanwad hwn yng ngwaith ysgolheigion megis Padraig 6 Riain. Yn ei farn ef: 'the distribution of saints' cults in south Cardiganshire in particular is largely a legacy of its early Christian Irish population'.6 A mor bell ag awgrymu mai seintiau Gwyddelig, yn y bon, yw nifer o seintiau Ceredigion gan gynnwys Gwenog, Gwnnen, Gwnnws, Gwyndaf a Gwynlleu ac mai cwlt Finnian sy'n cysyll- tu'r holl seintiau hyn. Fodd bynnag, er mor ddiddorol yw cysylltu'r seintiau a'i gilydd (ar sail enw neu wyl), ni wn pa mor ddefnyddiol yw'r arfer hwn nac ychwaith a yw'r broses hon yn dyfnhau ein gwybodaeth am y seintiau, eu cyltiau a'r hyn a gredid amdanynt. Oherwydd diffyg ffynonellau cynnar, anodd, os nad amhosibl, yw trafod y mwyafrif o seintiau Cymru yng nghyd-destun yr Oesoedd Tywyll. Perthyn y rhan fwyaf o'r ffynonellau testunol a gweledol i'r Oesoedd Canol a'r cyfnod modern ac, ar y cyfan, gwelir ynddynt adlewyrchiad o'r hyn a