Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

gredai'r Cymry am eu seintiau lleol. Y credoau hyn a phoblogrwydd y gwa- hanol seintiau sy'n bwysig i'r astudiaeth hon. Ni fwriedir ceisio dyfalu ai chymeriadau o gig a gwaed oedd y santesau ac ni fwriedir chwilio am olion o'r Oesoedd Tywyll yn y bucheddau a'r traddodiadau a gofnodwyd. Yn wir, ychydig iawn a wyddys am rai o'r santesau a chanddynt gysegriadau eglwysig yng Ngheredigion. Dwy santes sy'n nodweddiadol o'r santesau lleol hyn yw Callwen a Gwenfyl. Yn 61 Edward Lhuyd, cysegrwyd eglwys Cellan yn wreiddiol ar enw Callwen a chysylltid ffynnon leol a'r santes hefyd. Daethpwyd o hyd i gistfaen yn yr ardal a adwaenid wrth yr enw Bedd y Forwyn, ond ni wyddys a gredid mai bedd Callwen ydoedd7 Cofnodir gwyliau Callwen a Gwenfyl, merched Brychan, ar y cyntaf o fis Tachwedd yn y calendr Cymraeg a geir yn Llsgr. Cwrtmawr 44 (o'r unfed ganrif ar bymtheg), ond ni sonnir amdanynt yn achau canoloesol Brychan. Yn 61 Baring-Gould a Fisher, safai capel Gwenfyl ym mhentref Llangeitho, ond cafodd ei ddymchwel yn yr ail ganrif ar bymtheg.9 Ni cheir ar glawr unrhyw storiau am y ddwy santes hyn ac ymddengys fod y traddodiadau amdanynt wedi'u colli. Rhaid cyfaddef pan ofynnwyd i mi draddodi papur i Gymdeithas Hynafiaethwyr Ceredigion ar y pwnc 'santesau Ceredigion' fy ymateb cyntaf oedd gofyn i mi fy hun 'A oes digon o santesau a chysylltiad arbennig a Cheredigion, a faint a wyddys amdanynt?' Yr oeddwn yn hen gyfarwydd ag achau Brychan Brycheiniog sy'n honni bod gan frenin Brycheiniog bedair merch ar hugain ac un mab ar ddeg a'r rhan fwyaf ohonynt yn seintiau, ond beth am Ceredig ap Cunedda Wledig, brenin Ceredigion? Yn 61 Trioedd Ynys Prydein, un o 'Dair Gwelygordh Saint Ynys Prydein' yw plant Cunedda a chysylltir ei fab, Ceredig, a rhwydwaith o seintiau.10 Rhestr o feibion, merched, wyrion a wyresau a geir yn Progenies Keredic, sef yr achau Lladin a gofnodwyd, yn 61 pob tebyg, c. 1200. Enwir dwy ferch ymhlith plant Ceredig, sef Ina a Gwawr, ac unwaith eto ychydig a wyddys amdanynt. Yn 61 Progenies Keredic, mam Gwynllyw Sant yw Gwawr, hynny yw mam-gu Cadog, ond Gwawl yw ei henw yn Vita Sancti Cadoci a rhestrir santes o'r enw Gwawr ymhlith merched Brychan Brycheiniog hefyd.11 Yn 61 pob tebyg, cysegrwyd eglwys Llanina ar enw Ina ferch Ceredig a gadewid offrymau yn yr eglwys, er cof am Ina, tan yr unfed ganrif ar bymtheg, ond ym marn Samuel Lewis cysegrwyd eglwys Llanina ar enw Ina Farchog, brenin Sacsonaidd a fu farw yn Rhufain c. 727.12 Er nad yw pob un o blant Ceredig yn seintiau fe'i cysylltir a nifer o seintiau yn Progenies Keredic a Bonedd y Saint, er enghraifft Dogfael, Tyssul, Pedr ac Afan Buellt, ac ar ddechrau'r ddwy restr, fel y gellid disgwyl, enwir wyr