Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Darllenodd bapurau pwysig yno, a dod a choleg Aberystwyth a Phrifysgol Cymru i sylw'r ysgolheigion a'u mynychodd. Digwyddiadau yr edrychid ymlaen yn fawr atynt gan aelodau'r Gymdeithas Ddadlau yn y Coleg oedd ei adroddiadau am ei ymweliadau tramor. Nid oes amheuaeth ynglyn a'i wasanaeth gwiw i'r coleg drwy gydol y cyfnod maith y bu'n aelod o'r staff, ac adlewyrchir hynny yn y parch a'r serch sy'n nodweddu atgofion rhai o'i hen fyfyrwyr, megis O. M. Edwards, R. T. Jenkins a David Adams amdano. Pan gafodd Hermann Ethe ei hun yn Aberystwyth, a'i ddyfodol i raddau helaeth eto o'i flaen, prin y rhagwelodd mae'n debyg, mai yno, ar wahan i'r tair blynedd olaf, y treuliai weddill ei oes, a phrin yn wir, o ystyried ei bersonoliaeth, y byddid wedi disgwyl iddo aros yn hir yn Aberystwyth ei gyfnod. Gwr cymharol fyr a llydan ydoedd o ran corff, a thuedd ynddo i orymdeithio yn hytrach na cherdded drwy strydoedd y dref ar ei ffordd i'r coleg, a sigar fawr rhwng ei ddannedd, a mwg honno'n rhuban persawrus o'i 61. Yn Who's Who rhestrai mynydda, dawnsio a'r theatr ymhlith ei ddiddordebau oriau hamdden6 yn wir yn ystod ei ddyddiau coleg ei hun bu'n gwamalu am ychydig rhwng ysgolheictod a gyrfa ar y llwyfan.7 Cyfeiria sawl un o blith y rhai a'i cofiai at ei chwerthiniad nodedig a fyddai'n cyrraedd cyrrau pellaf yr ystafell ddarlithio. 'Y mae ei. chwerthiniad uchel calonnog, gweryrus yn chwareu ar fy nghlustiau y munud yma', meddai David Adams, a aeth yn fyfyriwr i goleg Aberystwyth flwyddyn cyn i Ethe gyrraedd.8 'Pwy ni chofia amdano', meddai R. T Jenkins drachefn, 'am ei lais taranllyd a'i floedd o chwerthin wrth adrodd (ar ganol darlith ar Goethe) sut yr oedd ef wedi smocio ei sigar gyntaf pan oedd yn ddeg.oed?'9 Hoffai gwrw a drachtiai'n hael ohono. Dywedodd wrth T. Gwynn Jones unwaith mai'r unig air Cymraeg yr oedd ar rywun ei wir angen yng Nghymru oedd 'cwrw', a phan ofynnwyd iddo ar un achlysur pa un a fynnai, ai cwrw ynteu brandi, ei ateb oedd 'y ddau'. Ar achlysur arall, mwy dirwestol ei naws, ei ateb i'r forwyn fach a ofynnodd yn ofnus iddo pa beth a fynnai i yfed gyda'i fwyd, ai dwr ynteu lemoned, ei ateb taranllyd oedd 'Ach! Vat does it matter vich?' Gallai ar brydiau fod yn ansensitif a difeddwl. Gwnaeth hwyl gyhoeddus unwaith ar ben myfyrwraig a ymwrthodai a bwyta cig. 'She is a ve-ge-ta-r-i-an; she lives on grass, like Nebuchadenezzar!'10, ac yna'r chwerthiniad enwog. Ar achlysur arall, fel un a welsai lyfrgelloedd mwy a gwychach, meddai (yn 61 R. T. Jenkins sy'n ceisio dynwared ei acen Almaenig mewn print) am egin-lyfrgell ei goleg tlawd yn Aberystwyth Thees is nod a library, thees is a gollection of boogs ’ 11 Eto mae parch a serch, fel y dywedwyd, yn britho'r atgofion amdano, ac meddai prifathro'r coleg, T. F. Roberts, wrth gyfeirio at Ethe