Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MAPIO CYMRU/MAPPING WALES GWEFAN NEWYDD YN FAN CYCHWYN I'R HOLL YMCHWIL I GYMRUA'IPHOBL Cyn bo hir bydd ymchwilwyr sy'n chwilio am wybodaeth am unrhyw beth ynglyn a Chymru a'i phobl yn medru troi at Mapio Cymru, cyfeiriadur awdurdodol a chwbl ddwyieithog ar y We sy'n cael ei ddatblygu ym Mhrifysgol Cymru, Aberystwyth (PCA) gan Fforwm Llyfrgelloedd Addysg Uwch Cymru. Cyllidwyd Mapio Cymru trwy grant o f 120,000 dan Raglen Cymorth Ymchwil y Llyfrgelloedd. Ei nod yw cynnal yr archwiliad cyfundrefnol cyntaf o adnoddau ymchwil yng Nghymru ac ynglyn a Chymru. Ar 61 ei chwblhau bydd y wefan yn borth i ymchwilwyr at gasgli- adau ffisegol a digidol, gwefannau a chatalogau cyhoeddus ar-lein yng Nghymru, mewn mannau eraill yng ngwledydd Prydain, a thramor. Dywedodd rheolwraig y prosiect, Dr Jean Everitt, sy'n arwain tim o 3 ar y prosiect yn Adran y Gwasanaethau Gwybodaeth, PCA: Prif amcan y prosiect yw ei gwneud yn llawer haws i'r rhai sy'n ymchwilio i unrhyw agwedd ar fywyd Cymru i ddod o hyd i gas- gliadau perthnasol, lie bynnag y byddant. Y dasg gyntaf a mwyaf anodd i unrhyw un sy'n gwneud ymchwil yw canfod pa ddefnyddi- au sydd ar gael a ble maen nhw. Bydd gwybodaeth ar gael yn rhwydd trwy gyfrwng Mapio Cymru, ar 61 iddi gychwyn gwei- thredu'n llawn yn 2002. Amcan y gronfa ddata fydd bod mor drwyadl a phosibl wrth gynnwys casgliadau ar lefel ymchwil mewn sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru, a bydd hefyd yn cynnwys ymdriniaeth drefnus o ddaliadau ymchwil Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Ond mae llawer iawn o ddeunydd o wir werth ymchwil y tu allan i'r sectorau hyn, a bydd y prosiect hefyd yn ceisio mapio cas- gliadau arbenigol a lleol sy'n bodoli mewn llyfrgelloedd cyhoeddus mawr, mewn sefydliadau cenedlaethol ac asiantaethau eraill yn y sector cyhoeddus a phreifat ledled Cymru. Ni fydd yr un pwnc yn cael ei hepgor, ar yr amod bod y deunydd o ddiddordeb posibl i ymchwilwyr ac academyddion. Dangosir hyn gan y ffaith bod y gronfa ddata eisoes yn cynnwys gwybodaeth am Gymdeithas Treialon Cwn Defaid Cymru, Y Gymdeithas Ryngwladol ar Ymchwil i Wenyn, a Llyfrgell Cadeirlan Bangor.