Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ADRODDIAD BLYNYDDOL AM 2000 Gwaith pleserus yw adolygu gwaith y tymor diwethaf ac adrodd ei fod yn un llwyddiannus iawn. Dechreuwyd ym mis Mawrth 2000 gyda chyfarfod yn y Llyfrgell Genedlaethol ar y cyd gyda'r Cyngor Archaeoleg dros Gymru. Traddodwyd pedair o sgyrsiau byrion ar dirwedd hanesyddol ac enwau lleoedd. Dechreuwyd ein rhaglen ni ym mis Ebrill gyda'r Cwrdd Blynyddol a'i ddilyn gyda darlith gan Gudrun Richardson ar Blas-crug. Dangoswyd diddordeb mawr gan y gynulleidfa a chafwyd trafodaeth fywiog. Ym mis Mai cafwyd darlith gan Jane Cartwright ar Santesau Ceredigion. Eto gwerthfawrogwyd y ddarlith. Ym Mehefin cafwyd y daith flynyddol ac aethpwyd i'r Gelli Gandryll ac ymlaen i Henffordd pan ymwelwyd a'r Eglwys Gadeiriol ac a phlas yr Esgob. Croesawyd ni gan yr Esgob ac i de gan Ffrindiau'r Eglwys Gadeiriol. Cawsom hefyd gyfle i fynd i'r Hwyrol Weddi a chlywed y corau unedig yn ymarfer. Neulltuwyd cyfarfod mis Medi i'r Rhyfel Mawr. Clywsom Angela Gaffney yn trafod y gwahanol gofebau rhyfel yn y sir. Yna cawsom ddarlith gan Tegwyn Jones am y driniaeth a gafodd Herman Ethe gan rai o drigolion Aberystwyth pan dorrodd y rhyfel allan. Cafodd y ddwy ddarlith dderbyni- ad gwresog. Ym mis Tachwedd cafwyd sgwrs gan Erwyd Howells ar hen fugeil- iaid Ceredigion. Ymunwyd gyda ni yn y cyfarfod yma gan aelodau Cymdeithas Hanes Amaethyddol y sir. Daeth y tymor i ben ym mis Rhagfyr gyda sgwrs gan Robert Meyrick ar yr artist John Elwyn a'i luniau ar y sir. Wrth adolygu'r rhaglen fel hyn, dylem gofio am lafur yr Ysgrifennydd Rhaglen, Dr Marion Loftier, a gwerthfawrogwn ei ymrhwymiad a'i gofal. Diolchwn hefyd i'n siaradwyr. Ymddangosodd rhifyn 4 o Gyfrol XIII o Ceredigion yn gynnar yn 2001. Derbyniwyd y rhifyn yn werthfawrogol gan yr aelodau. Mae arnom