Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

T.E. ELLIS A CHEREDIGION Mae'r cysylltiad cyntaf rhwng Thomas Edward Ellis (1859-99) yn un amlwg, sef ei gyfnod yn y coleg yn Aberystwyth o 1875 hyd 1879. Yr ail yw ei briodas a merch o'r sir, a aned yn Llangeitho ac a fu'n byw yn Aberystwyth. Ysgrifennwyd llawer gan haneswyr am flynyddoedd cynnar y coleg. Agorwyd y sefydliad yn y flwyddyn 1872 gyda phump ar hugain o fyfyrwyr. Aeth Tom Ellis yno, yn fachgen un ar bymtheg oed ym 1875; yr oedd cyfanswm y myfyrwyr yn uwch erbyn hynny, ond nifer bychan oeddent o hyd. Yr oedd Aberystwyth yn dref llawer mwy cryno nag yw yn awr, a llawer o'r strydoedd sy'n gyfarwydd i ni heb eu codi. Yr oedd clwydi'r tyrpeg yn dal i sefyll ar waelod rhiw Penglais a Ffordd Llanbadarn. Gyda'r tren y deuai pawb i'r dref, ac felly y daeth Tom Ellis yno ar 5 Ionawr 1875, wedi cychwyn oddi cartref yn gynnar, aros am bum awr yn Nolgellau, gan gyrraedd Aberystwyth am wyth. Digwyddai'r oedi hwn yn gyson a gofalodd am ddigon o ddeunydd darllen y bore hwnnw i basio'r amser. Lletyai yn 10 New Street, sef y ffordd sy'n arwain at Laura Place a'r Coleg.1 Disgrifia'r llety yn ei lythyr at ei gyfaill D.R. Daniel: I lodge with a nice young man, a great swell, very kind and jolly. We have two big rooms, a sitting room where we study and our bed- room above. Both overlook a fine broad and clear street.2 Sylwer mai yn Saesneg yr ysgrifennai, fel y gwnai pawb a fedrai yr adeg honno, am mai dyna oedd iaith addysg. Yn Saesneg y cadwai ei ddyddiadur hefyd. Dyddiadur nodweddiadol o fachgen ysgol ydyw, yn nodi'r pethau amlwg fel codi yn y bore a mynd i'w wely'r nos. Ond yr hyn sydd yn eich taro'n syth wrth ddarllen dyddiaduron Tom Ellis yw ei fod yn dweud ei bader ac yn darllen ei Feibl yn feunyddiol. 'Got up. Prayers'; 'Went to bed. Prayers'; ac ar nos Sadwrn, 'Preparing for tomorrow.' Dengys y dyddiaduron ffeithiol hyn beth oedd amserlen y myfyrwyr, a rhoddant ddarlun o'u diwrnod gwaith: peth na cheir yn y llyfrau hanes. Cynhaliwyd arholiadau ar ddechrau pob tymor, a'r pynciau'n amrywio. Ar ddydd Iau, 7 Ionawr, safodd arholidau Mathemateg a Lladin yn y bore a Gramadeg Groeg yn ddiweddarach yn y dydd. Ond fe wnaeth amser i fynd allan i brynu llyfr A Million of Facts y math o lyfr oedd yn cyfrannu gwybodaeth, ac a apeliai at fachgen o'i oed. Drannoeth cafodd dri phapur arall: Saesneg, Geometry a Ffrangeg. Nid oedd gwersi nac arholiad ar y dydd Sadwrn ac