Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

MUDIAD Y TEMLWYR DA YM MHLWYF TROED-YR-AUR1 Yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yr oedd Cymru yn uned hunangynhaliol a llawer o'r boblogaeth yn ddibynnol ar amaethyddiaeth. Y boneddigion a oedd yn berchen y rhan fwyaf o'r tiroedd, a'r ffermwyr yn denantiaid iddynt. Yr oedd sefyllfa y tenantiaid bron cynddrwg, os nad gwaeth, na'r gwas fferm. Dyma'r adeg y cynyddodd poblogaeth Ceredigion yn sylweddol a chyfnod yr ymfudo naill i dde Cymru neu i America. Yr oedd bywyd diwylliannol y ganrif wedi ei seilio ar dwf syfrdanol Anghydffurfiaeth. Yr oedd diwygiadau y ganrif flaenorol wedi sefydlu enwad y Methodistiaid Calfinaidd ym 1811. Yr oedd crefydd a mwy o ddylanwad ar y Cymry nac yn Lloegr. Yr oedd eu bywydau ynghlwm wrth y capeli. Efallai bod yna ormod o adeiladu gan y gwahanol enwadau ac eto yr oeddynt yn llawn ac yn rhoi cyfrifoldeb am y tro cyntaf ym mywydau'r werin dlawd. Yn Y Traethodydd ym 1852 ysgrifennwyd bod Cymry yn tyrru i'r capeli i geisio beth oedd y Sais yn ei gael yn y chwareudai. Wedi'r cyfan yr oedd yna ddrama yn y pulpud ac yr oedd y Cymry yn hoff o ddrama. Ond yr oedd annhyblygrwydd Anghydffurfiaeth yr oes yn llawdrwm ar unrhyw fath o bleser ac yn enwedig yfed. Fe gynhyrchodd y capel bobl gul a phenboeth ond ar y Haw arall fe gynhyrchodd safonau moesol ac fe ddysgodd y mwyafrif ddisgyblaeth ac urddas personol. Yn y capel fe'u dysgwyd i ddarllen a'r gelfyddyd o siarad yn gyhoeddus a threfnu ac fe ddaethant yn bobl fwy annibynnol a deallus. Dirywiodd yr anwybodaeth, drygioni, hapchwarae, meddwdod a thor Sabath a fu yn y ddeunawfed ganrif. Eto, yr oedd yna yfed. Bwyd llwy oedd cynhaliaeth y Cymry: tatws llaethenwyn, bara ceirch, cig mochyn hallt, sgadan hallt a chwrw main. Credent fod cwrw yn fwy diogel i'w yfed na dwr, yn enwedig mewn ardalodd diwydiannol fel Merthyr Tudful. Yr oedd yfed ynghlwm wrth eu diwylliant a'u traddodiadau cyn dyfodiad y Temlwyr. Yr oedd cwrw yn cael ei facsu gartref ac yn cael ei yfed adeg bwyd (wedi'r cyfan, yr oedd yn rhat- ach na the!): cwrw yn y farchnad, yn y ffair, adeg bedyddio ac angladdau, adeg dyrnu ac yn y cynhaeafau gwair a llafur. Yr oedd cwrw mewn sel fferm ac etholiadau a chwrw bando yn yr efail pan fyddai yr harn yn cael ei roi o gwmpas yr olwyn. Fe aeth yr wylnos gyda dylanwad y Temlwyr yn fwy o gwrdd gweddi, lie gynt yr ymdebygai i'r wylnos Wyddelig. Yn ddiamau, yr oedd goryfed yn achosi tlodi ac eto yr oedd tlodi yn achosi goryfed gan fod y bobl yn eu hanobaith a'u tlodi yn dyheu am ebar-