Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

RHAI 0 FEIRDD Y MYNYDD BACH1 O edrych ar fap gweddol fanwl o ganolbarth Ceredigion fe welwn enwi dau Fynydd Bach a'r rheiny nepell oddiwrth ei gilydd. Mae'r cyntaf rhwng Llanafan ac Ysbyty Ystwyth ac er ei fod yn codi fil o droedfeddi uwchlaw'r mor cymharol fychan yw'r arwynebedd. Mae'r ail, a hwnnw yw'r Mynydd Bach y canolbwyntir arno yn yr ysgrif hon, dipyn yn helaethach o ran arwynebedd ac yn ymestyn o Ledrod yn y pen uchaf hyd at gyrion Bwlch- y-llan yn y pen deheuol. Man ucha'r Mynydd Bach hwn yw Hafod Ithel gerllaw Trefenter sydd bron i ddeuddeg cant o droedfeddi uwchlaw'r mor. Ar y mynydd, neu wrth ei droed gan amlaf, mae nifer o bentrefi a phentrefannau Lledrod, Bronnant, Bontnewydd, Blaenpennal, Llangwyryfon, Trefenter, Bethania, Pen-uwch a Bwlch-y-llan. Dyna'r ffiniau daearyddol ac mae hi bellach yn ardal gymharol denau ei phoblogaeth o gymharu a'r hyn ydoedd ganol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. 0 ddechrau chwedegau'r ganrif ddiwethaf daeth yn gyrchfan i lawer o Deithwyr yr Oes Newydd a mewnfudwyr eraill ac yn sgil hyn fe gollodd y Gymraeg un o'i chadarnleoedd yng Ngheredigion. 0 ganlyniad mae gwead cymdeithasol yr ardal bellach yn dra gwahanol i'r hyn ydoedd yn ystod plentyndod a llencyndod y beirdd- lenorion y byddwn yn eu trafod yn y man. 0 ran natur y tirwedd, wrth gwrs, does na fawr wedi newid. 'Erwau crintach yr ychydig geirch', chwedl R.Williams Parry mewn cyd-destun arall, sy'n nodweddu llawer o'r Mynydd Bach gyda'r brwyn a'r grug a'r eithin yn teyrnasu yno er fod llawer o'r ffermwyr wedi llwyddo'n rhyfeddol, dros sawl cenhedlaeth, i godi daear las ar wyneb anial dir'. Ond os yw ardal y Mynydd Bach yn 'arw a brwynog weryd' ac yn gymharol brin ei chyfleusterau a'i phoblogaeth erbyn hyn, mae na haenau o hanes a thraddodiadau diddorol yn perthyn i'r fro a chyn son yn benodol am y traddodiad llenyddol purion fydd crybwyll y rhain yn frysiog. Fe fu yma gyfaneddu cynnar ac mae'r mynydd yn frith o olion, yn arbennig yn y cwr uchaf a'r pen isaf. Ar gyrion Llyn Eiddwen, er enghraifft, fe gafwyd sawl tystiolaeth sy'n mynd a ni yn 61 i Oes yr Efydd. Dyna'r wrn neu lestr dal llwch y meirw, a ddisgrifwyd gyntaf gan Daryll Forde ym 1939 pan aed ati i gloddio ychydig ar y Gaer Wen, carnedd amlyca'r ardal ond un sydd wedi ei hesgeuluso'n ddybryd oddi ar hynny, gwaetha'r modd. Bum mlynedd cyn hynny, ym 1935, fe ddarganfuwyd, heb fod ymhell o'r Garn Wen, fwyellforthwyl eto yn gynnyrch Oes yr Efydd ac yna, yn chwedegau'r ganrif ddiwethaf, fe gafwyd tystiolaeth fod ymgais gynnar iawn i ddiwyllio'r tir wedi digwydd rhwng copa Hafod Ithel a Llyn Eiddwen.2 Ac mae na enwau lleoedd hynod ddiddorol wedi goroesi ar rai o ffermdai'r fro