Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ADRODDIAD BLYNYDDOL AM 2001 Yr oedd y cyfarfod cyntaf ym mis Mawrth gyda'r Cyfarfod Blynyddol yn cael ei ddilyn gyda darlith gan Mrs. Mari Ellis ar T. E. Ellis a Cheredigion a chawsom ddarlith o ddiddordeb fawr gyda thrafodaeth fywiog. Bu rhaid gohirio am flwyddyn y cyfarfod a drefnwyd yn Llanerchaeron ym mis Mai ar bwnc 'y pentre coll' a ddarganfuwyd yno; hyn oherwydd y clwyf traed a genau. Ym mis Mehefin cafwyd y daith flynyddol ac aethom i Gastell a gerddi Tretwr, ty Treberfedd ac Eglwys Gadeiriol a Phriordy Aberhonddu o dan arweiniad Marion Loffler, Peter Smith a Richard Suggett. Walter Davies a Cheredigion oedd pwnc Dr. David Ceri Jones ym mis Medi ac yntau ar ddechrau ei swydd newydd yn y Ganolfan Uwchefrydiau Cymreig a Cheltaidd gyda'r amcan o gyhoeddi llythyrau Iolo Morganwg. Lien y Mynydd Bach oedd testun Dr. Rheinallt Llwyd ym mis Hydref a chafwyd eto gyfarfod bywiog a diddorol. Efallai am y tro cyntaf erioed yr oedd mwy o gynulleidfa nac o le ym mis Tachwedd pan siaradodd Dr. Greg Stevenson ar 'Rural Cottages in West Wales' and their furniture. Cafwyd ymateb brwd mewn neuadd anghyfforddus o lawn. Cafwyd ymateb rhagorol hefyd i ddarlith olaf y tymor a draddod- wyd gan ein Cadeirydd, yr Athro Geraint H. Jenkins, ar 'Lewis Morris: the Fat man of Cardiganshire' ar achlysur trichanmlwyddiant geni Lewis Morris. Fel arfer pleser yw cael diolch i'm cyd-swyddogion am gymwynasau di-rif ac hefyd i'n darlithwyr.