Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

J. GWENOGFRYN EVANS A CHOFNODI A MYNEGEIO LLAWYSGRIFAU CYMRU1 A bod yn fanwl gywir, gwr o Sir Gaerfyrddin oedd John Gwenogfryn Evans, ac fe gysylltir ei enw fynychaf a Rhydychen a'r gwaith a gyflawnodd yno ar lenyddiaeth Gymraeg, ac a Llanbedrog a Sir Gaernarfon, gan iddo fyw yno am gyfnod sylweddol o'i oes. Fe'i ganed ar 20 Mawrth 1852, yn Dolwlff, Llanybydder, ychydig dros y ffin yn Sir Gaerfyrddin, ond pan oedd yn flwydd oed fe symudodd ei deulu hanner milltir o'i fan genedigol, i fferm Cadabowen, ym mhlwyf Llanwenog, Ceredigion, ac oddi yno y mabwysiadodd yr enw atodol Gwenogfryn.2 Fel Cardi yr ystyriai Gwenogfryn ei hun weddill ei oes. Mae hynny'n ddigon o gyfiawnhad mae'n debyg dros drafod agweddau ar ei fywyd a'i waith, ac rwy'n dymuno dangos fod ganddo gysylltiadau pwysig eraill a'r sir ac am gynnig mwy o gyfiawnhad dros roi sylw i Gwenogfryn fel rhywun y dylai Ceredigion ymfalchio ynddo ac yn yr hyn a gyflawnodd. Fel y dywed cyfaill amdano: 'Not that you would call yourself a Shirgar. There is nothing you are so proud of as that you. are a true born Cardi'. 3 Derbyniodd ei addysg fore yn sir Aberteifi hefyd, bu'n ddisgybl yn ysgolion Llanybydder, Llanwenog a Llanwnen. Am gyfnod byr wedi'i ben- blwydd yn bedair ar ddeg bu'n gweithio yn siop ei ewythr yn Llanbedr Pont Steffan, ac fe'i disgrifiwyd ar y pryd fel 'the rustic youth who was serving behind a linen draper's counter at Lampeter.4 Bregus iawn oedd ei iechyd, cafodd y tyffoid yn llanc ifanc, a dylanwadodd hynny lawer iawn ar gwrs ei fywyd, er iddo fyw tan 1930. Pedair blynedd yn unig y bu'n gweithio'n y siop awyddai am ragor o wybodaeth' yn 61 un cofiannydd.5 Ym 1870 dychwelodd i'r ysgol, y tro hwn yng Nghaerfyrddin ac wedi hynny aeth i hen ysgol Pont Sian, yn ddisgybl i Gwilym Marles. Yna rhoes ei fryd, fel llawer o'i gyfoedion dis- glair, ar y weinidogaeth, ac astudio yng Ngholeg Presbyteraidd Caerfyrddin. Cyfarfu yno ag Edith, merch y Prifathro, a syrthiodd mewn cariad a hi. Yna treuliodd beth amser yn athro cynorthwyol yng Ngholeg Milton ger Rugby, ond daeth yn 61 at Edith a chymryd gofal Eglwys Undodaidd Parc y Felfed, Caerfyrddin, cyn symud i Preston ym 1877, y flwyddyn y priodwyd ef ag Edith. Roedd ei fryd ar ymestyn ei addysg a bu'n efrydydd rhan-amser yn Owen's College Manceinion ym 1880. Ysywaeth, collodd ei iechyd, a bu'n rhaid iddo roi'r gorau i'w yrfa fel gweinidog, a bu'n rhaid iddo dreulio cyf- nodau dramor yn ceisio gwella cyflwr ei iechyd.