Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR ADRODDIAD BLYNYDDOL AM 2003 Aeth gweithgarwch y Gymdeithas rhagddo dan yr enw newydd, sef Cymdeithas Hanes Ceredigion. Trefnwyd rhaglen amrywiol gan Dr Owen Roberts. Cychwynnwyd a darlith gan Dr D. Ben Rees ar fywyd a gwaith D. O. Evans, cyn Aelod Seneddol y sir, ar achlysur Cyfarfod Cyffredinol Blynyddol y Gymdeithas ar 26 Ebrill. Croesawyd Michael Benbough- Jackson i ddarlithio ar 24 Mai ar y testun: 'Ceredigion and the Changing Visitor Gaze c. 1760-2000'. Ar 21 Mehefin ymwelodd aelodau'r Gymdeithas a gerddi Aberglasne fel rhan o'r daith flynyddol, arfer a adferwyd yn dilyn bwlch a achoswyd gan glwy'r traed a'r genau. Yn ystod yr hydref cafwyd pedair darlith ddifyr, gan gychwyn gyda dwy ddarlith Gymraeg. Ar 13 Medi bu Trystan Lewis yn siarad ar 'Hanes cerddoriaeth a chymdeithas yn Aberystwyth' ac ar 11 Hydref bu'r Athro Hywel Roberts yn traethu ar Gwenogfryn Evans a'i waith yn mynegeio llawysgrifau Cymraeg. Ar 8 Tachwedd adroddwyd hanes 'The curious case of a wartime pig and a Parliamentary enquiry into the proceedings of a Cardiganshire bench' gan Richard Jones. Daeth rhaglen y flwyddyn i ben ar 6 Rhagfyr gyda darlith David James, awdur Ceredigion: its natural history, ar yr Athro J. H. Salter. Cynhaliwyd dau gyfarfod o'r Pwyllgor Gwaith yn ystod y flwyddyn, yn ogystal a'r Cyfarfod Cyffredinol ym mis Ebrill a'r Cyfarfod Cyffredinol Arbennig ym mis Hydref. Penderfynodd yr Ysgrifennydd, Mr Gwyn Davies, ymddeol o'i swydd yn ystod y flwyddyn a manteisiwn ar y cyfle i ddiolch yn gynnes iawn iddo am ei wasanaeth a'i gyfraniad i'r Gymdeithas. Diolchwn hefyd i Mrs Mair Humphreys am ddod i'r adwy i lenwi'r bwlch am gyfnod byr a dymunwn yn dda i Mrs Eirionedd Baskerville sydd newydd ymgymryd a gwaith yr Ysgrifennydd.