Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER I WASANAETHU CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU 1944 NODIADAU'R GOLYGYDD Parhad o Atodiad Cymraeg yr Highway ydyw hwn. Yr oeddem wedi bwriadu iddo fod yn gychwyn cylchgrawn chwarterol, oni bai am brinder papur a'r rheolau caeth sydd ynglŷn â chael cyflenwad papur. Ond rhaid inni fodloni yn awr ar gyhoeddi yr un rhifyn hwn, i fod yn ddolen gydio rhwng yr hen Atodiad a'r Cylchgrawn newydd sydd i ddyfod. Fe gyhoeddir y cylchgrawn hwnnw i wasanaethu yn bennaf Fudiad Addysg y Bobl mewn Oed yng Nghymru. Cychwynna ar ei yrfa o dan sêl bendith Cymdeithas Addysg y Gweithwyr (y W.E.A.) drwy Gymru i gyd, ond, oherwydd anawsterau'r rhyfel, ac am rai rhesymau eraill, fe ymgymerth Rhanbarth Gogledd Cymru o'r Gymdeithas honno â'r cyfrifoldeb sydd ynglŷn â'i argraffu a'i werthu. Dyma fydd rhai o'i brif amcanion (i) Cydio canghennau a dosbarthiadau Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru wrth ei gilydd, a chroniclo'u hanes (ii) egluro gwaith y Gymdeithas i bobl oddi allan (iii) darparu ysgrifau ac adolygiadau a fydd o wasanaeth i aelodau'r dosbarthiadau yn y pynciau a astudir ganddynt (iv) ymdrin ag Addysg a'i holl agweddau, yn enwedig yng Nghymru, a goleuo barn y wlad arnynt. Wedi cryn lawer o drafod, fe ddewiswyd y gair LLEUFER yn deitl. A'r lleufer a lewycha," medd hen gyfieithiad o Efengyl Ioan, am y geiriau, a'r goleuni sydd yn llewyrchu". A chymhwyso'r ymadrodd i'n pwrpas ein hunain, fe ellir dywedyd yn briodol iawn am Fudiad Addysg y Bobl mewn Oed mai lleufer yn llewychu ydyw yntau. Y mae'r teitl yn un cyfaddas am un rheswm arall. Syr Daniel Lleufer Thomas oedd un o sylfaenwyr cyntaf Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru, a'i llywydd am flynyddoedd, a gobeithio y bydd y cylchgrawn newydd yn un moddion i gadw ei enw yn fyw, a'i goffadwriaeth yn loyw, mewn mudiad a garodd ac a wasanaethodd mor ffyddlon.