Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYMUNIADAU DA Oddi wrth Dr. Albert Mansbridge, sylfaenydd Cymdeithas Addysg y Gweithwyr LLEUFER Goleuni Ni fyddai'n bosibl cael enw ar gylchgrawn Cym- raeg â mwy o ysbrydoliaeth ynddo na hwn. Yr oedd Daniel Lleufer Thomas, pan adwaenwn ef, yn oleuni clir yn symud ymysg ei bobl. Wrth annerch cydweithwyr imi ym Mudiad Addysg y Rhai mewn Oed yng Nghaergrawnt yn 1926, dywedais Gwybodaeth ydyw'r olew y mae'n rhaid i'r ysbryd ei losgi fel y caffo dyn ei fynegi ei hun yn llawn, gorff a meddwl. Goleuni ydyw arwyddlun goruchaf ei fywyd, a'i ddiben eithaf." Yr Arglwydd fy ngoleuni ydyw'r geiriau a fu'n addurno arfbais Rhyd- ychen am yn agos i wyth ganrif. Bydded goleuni ydyw arwyddair Prif- ysgol Califfornia, nad yw'n llawn ganmlwydd oed eto. Goleuwyd ac ysgafnhawyd fy llwybr i gan rai o feibion a merched Cymru. Efallai imi ganfod eu goleuni yn gliriach oherwydd y gwaed Cymreig sydd yn fy ngwythiennau. Beth bynnag am hynny, yr wyf yn talu teyrnged i nifer ohonynt sydd eto'n fyw yn y cnawd, ac na chaf eu henwi. Hefyd, i ddau o blith y lliaws a losgodd mor ddisglair nes fy mod yn gweled eu goleuni hyd heddiw,-Daniel Lleufer Thomas, ac Eleanor Price Hughes, o'r Barri. Boed fflam Cymru ddyrchafu yn dragywydd, gan wasgaru ei lleufer dros yr holl genhedloedd. Oddi wrth Syr Wynn P. Wheldon, Ysgrifennydd Adran Gymreig y Weinydd. iaeth Addysg Y mae'n dda gennyf ddeall eich bod yn bwriadu cyhoeddi cylchgrawn chwarterol at wasanaeth y W.E.A. yng Nghymru, a dymunaf bob llwyddiant iddo. Gan fod y dosbarthiadau wedi cadw mor raenus yn wyneb holl anaws- terau'r rhyfel, y mae sail dros obeithio y gwelir cynnydd sylweddol ymhob ymdrech o'r fath pan ddaw dyddiau esmwythach. Ond ni bydd y cyfnod ar ôl y rhyfel yn esmwyth ymhob ystyr. Ceir llawer o gynlluniau heddiw er