Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Oddi wrth Alwyn Williams, Llywydd Myfyrwyr Prifysgol Cymru Ar ran Pwyllgor Canolog Myfyrwyr Prifysgol Cymru, dymunaf gyfarch Cymdeithas Addysg y Gweithwyr drwy gyfrwng ei chylchgrawn newydd, LLEUFER. Bu Cymru bob amser yn enwog am y parch dwfn a roddai i brydferthwch a diwylliant mewn bywyd. Mewn amseroedd fel y rhain, y mae'n anhraethol bwysig fod y nodwedd hon yn ei chymeriad yn cael ei chryfhau a'i dyfnhau. Gellir gwneuthurhynyneffeithiol drwy'r undeb bywiol sydd yn bod rhwng y myfyrwyr oddi mewn i'r colegau a'r myfyrwyr oddi allan, hwythau hefyd yn rhan hanfodol o'n cyfundrefn addysg. Trwy gyd-ymdrechu mewn undeb, gallwn ddyrchafu safonau deall yng Nghymru, a thrwy hynny wella per- thynas pobl â'i gilydd tu mewn i'r wlad, a'u perthynas â'r byd oddi allan. Carwn nodi'r ffaith fod gan y myfyrwyr oddi allan hawl i gyfranogi o rai o freintiau cymdeithasol y colegau er enghraifft, gallant fod yn ym- geiswyr yn Eisteddfod Gyd-Golegol y Brifysgol. Manteisiwn ar weledigaeth y rhai a feddyliodd am gychwyn Lleufer, i gyd-uno o blaid cynnydd, a gwybodaeth a diwylliant. MYFYRWYR COLEGAU'R BRIFYSGOL Bydd myfyrwyr pob un o golegau'r Brifysgol yn dewis Llywydd ac Is- Lywydd bob blwyddyn, a'i ethol i un o'r swyddi hyn ydyw'r anrhydedd uchaf y gall myfyriwr ei dderbyn oddi ar law ei gyd-fyfyrwyr. Mab a ddewisir yn Llywydd, a merch yn Is-Lywydd. Dyma enwau'r rhai sydd yn dal y swyddi hyn eleni, sef y flwyddyn sy'n dechrau ym mis Hydref:- Abertawe J. J. A. Powleshead, Abertawe Gwlithyn Jones, Penmaen. Aberystwyth Alwyn Williams, Aberdâr; Dilys Morgan, Llanelli. Bangor Gareth Lloyd Evans, Gwrecsam Meinir Jones, Llanfyllin. Caerdydd H. E. Phillips, Pencoed Nancy V. Edwards, Y Sgiwen. Cyferfydd yr wyth Lywydd ac Is-Lywydd mewn Pwyllgor Canolog dros Gymru, a bydd un o'r Llywyddion yn Llywydd y Pwyllgor hwnnw, — ^pob coleg yn ei dro. Tro Aberystwyth ydyw hi eleni, ac felly Alwyn Williams fydd Llywydd Myfyrwyr Prifysgol Cymru am y flwyddyn 1944-45.