Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y GOBAITH AM WELL ADDYSG (GAN Y PRIFATHRO JOHN MORGAN JONES) Faint o obaith sydd am addysg fwy cyflawn ac effeithiol i'r werin ar 61" y rhyfel hwn ? O fis i fis tywalltwyd arnom gawodydd o addewidion mawr a gwerthfawr Bu llu mawr o bersonau, cymdeithasau, ac awdurdodau addysg, o bob math wrthi'n ddyfal yn ethol pwyllgorau, yn trafod egwyddorion, yn penderfynu ar gynlluniau, ac yn cyhoeddi llyfrau ac adroddiadau di-rif bron, ar addysg y dyfodol ymhob agwedd arni. Yn swyddogol hefyd, ar arch y Llywodraeth, cafwyd Adroddiad Norwood ar Gwrs Addysg, Adroddiad McNair ar Baratoad yr Athrawon, ac Adroddiad Fleming ar berthynas y Public Schools â'r gyfun- drefn addysg. Y mae'r Weinyddiaeth Addysg ei hun yn gyfrifol am y "Green Book y pamffled ar Educational Reconstruction a'r Bil Addysg sydd erbyn hyn yn rhan o ddeddf y wlad. Yn ddiddadl, y mae defnyddiau chwyldroad mawr i gyfeiriad addysg werinol ac effeithiol yn yr holl drafodaethau hyn. Disgrifir dylanwad y rhyfel ar Addysg yn y cyfeiriadau hyn ac eraill gan H. C. Dent, yn ei gyfrol ar Edu- cation in Transition Y mae'n amlwg nad oes ball ar addewidion am addysg well yn y dyfodol, ar gynlluniau ardderchog ar ei chyfer, ar wybodaeth lwyr o anghenion y werin ac o'r ffordd orau i'w cyfarfod. Y mae un bwlch pwysig, er hynny, heb ei lanw. O gylch cymharol gyfyng, wedi'r cyfan, y daw'r holl drafodaethau addysgol hyn. Oni ellir di- huho diddordeb llu o bobl gyffredin ynddynt, a gwasgaru gwybodaeth am ystyr a gwerth, diben a chynlluniau pwysicaf .y mudiad addysg ymhlith y werin, ychydig o obaith sydd am droi'r diwygiadau a awgrymir heddiw yn foddion effeithiol i godi lefel diwylliant ac annibyniaeth feddyliol a moesol y genedl. Efallai y gall llawer o gyfleusterau allanol addysg ddyfod oddi uchod, ond nid oes na grym nac awdurdod a all eu troi'n addysg wir i ddynion heblaw eu di- ddordeb a'u cydweithrediad hwy eu hunain yn y gwaith. Lladdwyd a chladd- wyd eisoes yn ystod y ganrif hon nifer o Ddeddfau Addysg ardderchog, ag enwau teilwng fel McKenna, Birrell a Fisher ar y garreg fedd. Rhennir y cyfrifoldeb am eu marw cynnar rhwng difaterwch neu anwybodaeth y werin, ceidwadaeth neu gybydd-dod yr awdurdodau gwleidyddol ac addysgol, a hunanoldeb sectol yr awdurdodau eglwysig. Onid ydym am i rywbeth tebyg ddigwydd i'r Ddeddf Addysg, a'i throi'n llythyren farw ar ôl y. rhyfel, rhaid fydd wrth genhadaeth eiddgar a gweithgar, er dihuno a dyfnhau diddordeb y werin mewn addysg wir a chyflawn i bawb, a gwasgaru gwybodaeth am ystyr a diben a chynnwys a chynlluniau'r Ddeddf newydd.