Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BWYD AC IECHYD (GAN MOSES GRIFFITH) Yr hyn a fwyty ydyw dyn ";­hen ddywediad Almaenig. Safon bwyd ydyw safon byw "dihareb Ffrengig. Gellir ystyried y pwnc pwysig hwn,-llawer pwysicach nag a sylweddolir, hwyrach, yn yr oes olau hon,-o amryw safbwyntiau. Un o'r effeithiau mwyaf difrifol ydyw'r anwybodaeth a'r rhagfarn sydd, nid yn unig ymysg y werin bobl, ond hefyd ymysg gwyddonwyr, a hyd yn oed meddygon. Y mae a wnelo'r math o fwyd a fwyteir, a'i ddefnyddio'n briodol, fwy o lawer ag iechyd corff a meddwl nag a sylweddolir yn gyffredin. Gresynus yw'r ffaith fod y rhai a gymerodd gwrs yn y gwyddorau amaethyddol yn gwybod mwy am effaith a gwerth bwyd i wartheg, moch, a ieir, nag a wyr meddygon am fwydo pobl. Rhaid sylweddoli wrth ddechrau trafod y pwnc hwn fod chwyldro wedi digwydd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn y mathau o fwyd a fwyteir yng Nghymru, a'r dull o'i goginio. Yn niwedd y ganrif ddiwethaf, bwyd wedi ei gynhyrchu gartref oedd defnydd lluniaeth y tlawd a'r cyfoethog fel ei gilydd,-bara gwenith wedi ei falu drwyddo, bara haidd, bara ceirch, llefrith, llaeth enwyn, maidd, caws, tatws, bresych, a Uysiau gardd. Cig moch wedi ei ladd gartref, a'i halltu, a welwyd yn gyffredin; ac ar hyd glannau'r môr, defnyddid pysgod yn helaeth, yn enwedig penwaig, hwythau'n aml yn cael eu halltu a'u cochi gartref. Byddai cranc a chimwch, a physgod cregin, ar y bwrdd hefyd. Yna ceid ffrwythau cartref, a mêl, a gwneid diodydd o lysiau a ffrwythau yn y cartrefi. Bwyd llwy oedd y prif fwyd yng Nghymru yn y dyddiau hynny,-uwd, llymru, brwas, cawl, a shot a sucan. Ac oni ddaliodd y bwyd hwn y praw ? Cynhyrchodd feibion a merched cryf ac iach, a'u dan- nedd a'u clyw a'u golwg yn dal yn rhyfeddol, ac yn parhau i'w henaint. Y mae ysgol o wyddonwyr heddiw a fu'n ymdrin â mater bwydydd ers blynyddoedd, a chredant hwy fod y bwyd a godir ar y tir yn yr un wlad a'r un hinsawdd ag y mae'r bobl yn byw ynddi yn fwy gwerthfawr er diogelu iechyd na bwydydd a ddygwyd i mewn o wledydd tramor. Beth am y bwydydd a fwyteid yng Nghymru yn ystod y blynyddoedd rhwng y ddau ryfel,-bara gwyn, te, tatws (yn aml wedi eu gwneud yn chips), a bwydydd tuniau. Ofnwn mai dyna a oedd prif fwyd pobl y wlad a'r trefi, a'u cymryd at ei gilydd. Hwyrach, yn wir, fod trigolion mwyaf deallus y trefi yn prynu bwyd gwell na phobl y wlad, er ei fod gryn dipyn yn haws i bobl y wlad godi, a phrynu, llawer o'r elfennau pwysig yn hollol ffres.