Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

"LOT 37" (GAN DOREEN WALTERS) Mae'n mynd mynd Saif mwrthwl yr arwerthwr yn bryfoclyd o betrusgar chwe modfedd uwchben y tamaid blocyn, lle y disgyn ag ergyd ddychrynllyd yn awr ac yn y man. Deil y dorf ei hanadl i weled a wna Musus Jones Glyn Llyffant gynnig unwaith eto ar fargen gystal â hon. Golwg stormus yn llygaid gwraig y Felin y mae arni eisio'r gadair freichiau yna. Yr arwerthwr yn aros yn benderfynol, a meddwl na chaiff hi hon am ddim, beth bynnag. O, dowch, wir, bobol bach 'does dim sens mewn peth fel yma". Y mwrthwl yn hanner chwifio am eiliad i gyfeiriad Musus Jones, a dyna demtasiwn wedi myned â'r llaw uchaf arni. Y dyrfa'n tynnu anadl eto, ac ymlaen â hwy mewn brys. Dim amser i'w wastraffu. Arwerthwr penigamp; chwaraeydd ar lwyfan drama bywyd, wrth ei fodd yn chwarae â'r dyrfa o'i flaen. Un foment yn eu gwaradwyddo Beth ? Dim un cynnig gan undyn am y celficyn golygus hwn ? 'Does neb sy'n medru gweld yma ? Bobol bach Beth sy'n bod ar eich Uygaid ? Bydd yn eitha' edifar gennych yfory, credwch chi fi". Yna eu cymell: Yn wir, ysbïwch eto ar siâp y bwrdd, foneddigesau ysbïwch sut y medrir agor ei wyneb allan i wneuthur Ue i'r ymwelwyr brynhawn Dydd Sul, a'r plant drws nesa' bob dydd Wedyn, chwerthin am eu pennau Beth ddywetsoch chi, syr ? Dwy bunt am hwn! A gawsoch chi beint bach ar y ffordd ? Ydych chi'n siwr ? Wel, peidiwch â smalio, ynteu 'Does gen i ddim amser. Cynigiwch eto, da chi,-rhywbeth rhesymol, 'nawr, os gwelwch chi'n dda". Felly, ac yn y blaen, a'u cadw'n hapus drwy gydol y dydd. Eu profocio a'u canmol bob yn ail, cosi eu ffansi'n ysmala, ond eu trechu bob tro. Yr oedd Sam Roberts ar ei orau, gystal â digrifwas mewn syrcas, neu gomedïwr mewn consart. Wrth gyrraedd perllan Pwll y Mwg, lle y cynhelid y sêl, gwelodd rhai o'i chymdogion Forfudd Trehyrn mewn gŵn las ddestlus yn sefyll yn llonydd ar ben y drws. I bob golwg, nid oedd yr olygfa yma a welai yn ei phoeni, nac yn hyfforddio iddi yr un pleser chwaith. Ni ddaeth i feddwl yr un ohonynt beth a basiai drwy ben mor ddideimlad â'i phen hi. Gwelwch honacw heb fymryn o alarwisg o'i phen i'w thraed, ac yntau heb fod yn ei fedd bythefnos", ebe un. Ie'n siwr", ebe'r UaU, 'roedd hi'n dweud wrtha' i ddoe na chredai mewn gwisgo du o gwbwl".