Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YR HAWL I STREICIO (GAN DR. T. HUGHES GRIFFITHS) Achosodd Rheol 1AA, sydd yn newid Rheol 1A o Reolau (Cyffredinol) Amddiffyniad 1939", gyffro mawr yn y Senedd ac yn y wlad, a helynt difrifol oddi mewn i'r Blaid Lafur. Pa fodd y cychwynnodd y Rheol hon ? Y mae dwy brif ffynhonnell deddfwriaeth, sef y Senedd a'r Cyfrin Gyngor (Privy Council). Gwna'r Senedd, drwy gwrs o ddadlau a phleidleisio, ddeddfau a elwir yn "Ddeddfau Senedd", a gwna'r Cyfrin Gyngor, yng ngŵydd y brenin, 4` Orchmynion mewn Cyngor", neu Reolau, ac un o Orchmynion y Cyfrin Gyngor ydyw Rheol 1AA. Cyfarfu'r Cyfrin Gyngor yn y llys ym Mhlas Buckingham, Ebrill 17, 1944, a gwnaed y Rheol yno, ac wedi hynny cyflwynodd Mr. Ernest Bevin, y Gweinidog Llafur, hi i'r Senedd i'w chymeradwyo. Ni all y Senedd ymwneud â Gorchymyn mewn Cyngor yr un modd ag y gwna â Mesur cyffredin, sef drwy ei drafod a chynnig gwelliant. Nid oes ond un ffordd, sef cynnig "bod cais gostyngedig yn cael ei anfon i'w Fawrhydi yn gofyn am ddiddymu'r Gorchymyn mewn Cyngor a orchmynnwyd Ebrill 17,1944". Cynigiwyd gwneuthur y cais hwn gan Aelod Cymreig, Mr. Aneurin Bevan, a gwyddom i gyd beth a fu canlyniad hynny. Cyn dechrau trafod natur y Gorchymyn pwysig hwn, a'i arwyddocâd, y mae'n anhepgor ei ddyfynnu yn llawn. Rheolau a Gorchmynion Cyfreithiol 1944, Rhif 461. Gorchymyn yn newid Rheol IA o. Reolau (Cyffredinol) Amddiffyniad 1939, ac yn chwanegu Rheol 1AA atynt. 1. Yn Rheol 1A o Reolau (Cyffredinol) Amddiffyniad 1939 (sydd, ymhlith pethau eraill, yn gwahardd gwneuthur dim a'i fwriad i rwystro neu ymyrryd â gwaith dynion yn gweithio yn y gwasanaethau anhepgor), yn Ue'r geiriau, Ond ni ddelir neb yn euog o drosedd yn erbyn y Rheol hon am yr unig reswm ddarfod iddo gyfranogi mewn streic, neu annog mewn dull heddychol rywun arall i gyfranogi ynddo', rhodder y geiriau hyn;­‘ Ond ni ddelir bod neb wedi troseddu'r Rheol hon am yr unig reswm ddarfod iddo, wrth gyfranogi mewn streic, roddi'r gorau i weithio, neu wrthod parhau i weithio, neu wrthod gwaith a gynigiwyd iddo'. Yn y Rheol hon, golyga'r gair streic' yr un peth ag a olyga yn Rheol 1AA o'r Rheolau hyn. 2. Ar ôl y Rheol IA hon, rhodder i mewn y Rheol a ganlyn 1AA. (1) Ni chaiff neb gyhoeddi streic ymysg y personau sydd yn gweithio yn y gwasanaethau anhepgor, na chload allan i'r personau hynny, na chymell nac annog neb arall i gyfranogi ynddo, na gwneuthur dim i'w hyrwyddo