Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

PA BETH FW DDARLLEN AR HANES CYMRU (GAN A. O. H. JARMAN) Y mae hanes yn bwnc sych; nid yw ond pentwr o ddyddiadau ac enwau, a ffeithiau i feichio'r cof". Wrth athro ar ddosbarth mewn llenyddiaeth y llefarwyd y geiriau hyn, wedi iddo ofyn i'w fyfyrwyr a hoffent gymryd Hanes Cymru 'n destun cwrs y tymor nesaf. Gellir cyfarfod yn ddigon aml o hyd â'r ffordd hon o synio am Hanes". Cynhyrchwyd hi gan ddull athrawon y genhedlaeth ddiwethaf o ddysgu'r pwnc yn yr ysgolion dyddiol. Edrycher ar unrhyw hen werslyfrau ar hanes, ac ni synnir mai diflastod oedd y ffrwyth a ddygasant. Y mae angen cryn berswâd ar lawer un o hyd cyn y cred nad rhestrau o enwau brenhinoedd, a'u meibion a'u gwragedd, brwydrau a chytundebau a chyfansoddiadau gwladol, yw unig gynnwys Uyfrau'r haneswyr bellach. Ond y gwir yw bod hanes lleol a hanes diwydiant a chrefydd a bywyd cymdeithasol yn awr yn ennill llawn cymaint o sylw â'r gweddau milwrol a gwleidyddol. A thrwy grefft y bywgraffydd diweddar fe'n dygir at ffynonellau dirgelaf hanes, sef at gymhleth gymhellion ysgogiadau a gweithredoedd dynion. Tasg yr hanesydd yw adrodd y gwir am y gorffennol yn gyflawn a chywir. Nid tasg a gyflawnir ar frys yw hi, ac ni ddylai'r darllenydd ryfeddu na gwangalonni pan wêl fod gwahaniaeth barn brwd, a gwyllt weithiau, rhwng haneswyr a'i gilydd. Y mae ein gwybodaeth am lawer cyfnod mewn hanes yn fylchog iawn, a hyd yn oed lle bo'r wybodaeth gyflawnaf at wasanaeth yr hanesyd'" nid yw ef yn debyg o fedru llwyr osgoi rhoi lliw ei safbwynt ei hun ar y ffeithiau wrth eu trafod. Nid drwg yw hynny o anghenraid, eithr dylai'r darllenydd ddysgu'n gynnar mai buddiol yw darllen llawer o lyfrau gan amryw awduron ar yr un maes, eu darllen yn feirniadol, a'i hyfforddi ei hun i bwyso a phrofi gwerth yr hyn a ddywedant. Nid yw'r awduron a'r llyfrau a enwir isod oll yn gytûn â'i gilydd o bell ffordd, na chwaith yn ogyfwerth. Y mae hyn yn arbennig wir am hanes Cymru, pwnc na ddechreuwyd ei astudio o ddifrif hyd yn gymharol ddiweddar. Nid yn unig nid oes gennym eto unrhyw lyfr yn traethu hanes Cymru o'r dechrau hyd yn awr yn gyflawn ac yn rhesymol o derfynol, eithr fe ddywaid yr haneswyr wrthym nad yw eto'n bosibl ysgrifennu'r fath lyfr. Erys wmbredd o waith ymchwil i'w wneud cyn y sgrifennir y llyfr hwnnw. Chwedl Dr. R. T. Jenkins yn 1928, yn ei Ragym- adrodd i'w Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif gymaint yw nifer y