Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

AT Y CANGHENNAU Oddi wrth D. T. Guy, Trefnydd Rhanbarth Deheudir Cymru, ac M. Silyn Roberts, Trefnydd Rhanbarth Gogledd Cymru. Croesawn y cyfle hwn i ddweud ychydig eiriau wrth aelodau'r W.E.A. yng Nghymru. Yn ystod y pum tymor diweddar, fe wnaeth y Canghennau yng Nghymru waith gwych a godidog. Hwy biau'r clod, nid yn unig am gynnal Addysg Pobl mewn Oed yn eu hardaloedd yn ei gynefin nerth, ond hefyd am gyflawni llawer tasg newydd yn llwyddiannus. Gwyddent yn dda am yr anawsterau anghyffredin a'u hwynebai oherwydd y rhyfel. Er hyn i gyd, aethant i'w cyfarfod yn galonnog, a'u goresgyn yn llwyr. Yr ardaloedd Ue nid oedd yr un gangen, dyna'r rhai a ddioddefodd fwyaf o achos y rhyfel, ac y mae'r ffaith hon ynddi ei hun yn ddigon i ddangos mai'r canghennau sydd yn cynhyrchu'r egni bywiol tu cefn i'r Mudiad. Gresyn fyddai inni laesu dwylo yn awr. Peidiwn â cham-synied mai tu ôl inni y mae'r anawsterau i gyd. Credwn ni fod yn rhaid i Addysg Pobl mewn Oed mewn gwlad werinol roddi'r hawl i aelodau'r dosbarthiadau ddewis eu cyrsau eu hunain, a dylai'r gred hon ein symbylu i fwy o ymdrech. Pa newid bynnag a ddaw ar Addysg Pobl mewn Oed ar ôl hyn, ni allwn ollwng gafael ar yr egwyddor hon. Dyma garreg sylfaen ein holl adeilad. Gan fod y Canghennau â rhan mor anhraethol bwysig i'w wneud mewn datblygu Addysg Pobl mewn Oed yng Nghymru yn y blynyddoedd nesaf, rhaid iddynt lafurio'n ddycnach nag erioed, ac anfon cenhadon" i'r ardaloedd sydd heb ganghennau, i hyrwyddo'r gwaith da yno. Daeth yr awr i Ranbarthau a Changhennau Gogledd a De Cymru lefaru ag un llais. Fe all LLEUFER fod yn gyfrwng i gyrraedd y nod dymunol hwn. Bydd Cyngor yr Eisteddfod Genedlaethol yn cynnig gwobr arbennig yn ddiweddar i ddosbarthiadau pobl mewn oed. Yn y Rhos y flwyddyn nesaf cynigir gwerth chwe phunt o lyfrau am feirniadu Uenyddiaeth. Enwir pedwar darn o farddoniaeth, pedair stori fer, a phedair ysgrif, a gofynnir i'r athro eu cyflwyno i'r dosbarth, un bob wythnos. Yna, rhaid i'r aelodau sgrifennu eu barn amdano erbyn yr wythnos wedyn, ac anfonir y papurau i gyd i'r gystad- leuaeth ar y diwedd. John Morris, Arolygydd Ysgolion, fydd y beirniad. Gobeithio y rhydd llawer o'r dosbarthiadau eu sylw i'r gystadleuaeth hon.