Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

HANES Y CANGHENNAU CANGEN ABERTAWE (GAN MANSEL GRENFELL) Cychwynnwyd y gangen hon gyntaf yn 1919, nid yn Gangen Abertawe yn unig, ond yn Gangen Abertawe a'r Cylch ac ymestynnai'r Cylch cyn belled â Phort Talbot i'r dwyrain, Cwmtawe a Chwmaman i'r gogledd, a Gorseinon, Tregŵyr a Llanelli i'r gorllewin. Wrth ddarllen yr ychydig gofnodion sydd wrth law, a gwrando ar rai a fu'n weithgar gyda'r Gangen yn y blynyddoedd cynnar, ceir yr argraff mai gorfoledd y pryd hynny oedd bod yn fyw. Ffynnai gobaith ac ymdeimlad o ryddid a hyder mawr, a disgwylid pethau gwych i ddyfod ac yn yr awyrgylch hwnnw gwnaed llawer o waith cenhadol rhagorol dros efengyl addysg trwy gynnal cyfarfodydd cyhoeddus, a chynadleddau, ac ysgolion undydd a phen- wythnos. Ond er cymaint yr asbri i gyd, araf fu'r gwaith o ddatblygu a chael trefn ar y Gangen ei hun. Hwyrach mai ehangder y Cylch, a newydd-deb y mudiad yn y parthau hyn, a gyfrifai am hynny, oblegid er i Gangen W.E.A. (y gyntaf yng Nghymru) gael ei ffurfio yn y Barri cyn belled yn ôl â 1906, ac er i nifer o ganghennau eraill gael eu ffurfio yn y De yma ymhell cyn dechrau'r Rhyfel Mawr cyntaf, nid oes hanes fod y mudiad wedi cyrraedd Abertawe cyn 1917. Y flwyddyn honno, ar gais y W.E.A., trefnodd Samuel Rees (swyddog addysg Cymdeithas Gydweithredol Abertawe) ddosbarthiadau yn Abertawe a Fforest Fach, ac apwyntiodd Cyd-Bwyllgor Coleg y Brifysgol yng Nghaerdydd H. B. Moles- worth yn athro arnynt, yn ogystal ag ar ddosbarthiadau yng Nghastell Nedd a Phort Talbot. Bu'r dosbarthiadau yn llwyddiannus iawn, ond am y tymor hwnnw yn unig (1917­18) y bu Mr. Molesworth yn athro arnynt, ac yn 1919 apwyntiodd y Cyd-Bwyllgor y diweddar P. S. Thomas yn athro allanol yn Abertawe a'r Cylch. Cofier mai yn 1920 y sefydlwyd Coleg y Brifysgol yn Abertawe, ac mai o dan nawdd Coleg Caerdydd y trefnwyd darlithoedd a dosbarthiadau allanol y De cyn hynny, hyd at Rydaman a Llanelli, lle y cynhelid rhai gan Goleg Aberystwyth. Cofier hefyd na ddechreuodd y W.E.A. drefnu dosbarthiadau W.E.A. fel y cyfryw cyn 1924. Yn 1920, sefydlwyd y W.E.T.U.C., ac apwyntiwyd Illtyd David yn athro a threfnydd i'r mudiad newydd hwn yn Neheudir Cymru, a'r un flwyddyn apwyntiodd Coleg newydd Abertawe P. S. Thomas yn athro allanol. O hyn allan, trefnwyd dosbarthiadau allanol gan Gyd-Bwyllgor Abertawe (a'r W.E.A. wedi ei gynrychioli arno), ac aeth y gwaith yn ei flaen yn hwylus.