Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGOLION HAF CYLCH GWYRFAI (GAN O. LLEW ROWLANDS) Aml y sôn heddiw am chwaneg o baratoi ar gyfer Addysg Pobl mewn Oed, am yr angen am fwy o arian i gyflawni'r gwaith. am hwylusach ystafell- oedd i gynnal dosbarthiadau, ac am fwy o athrawon profiadol i'w dysgu. Yn ddiddadl, y mae'r pethau hyn oll yn bwysig, ond y mae perygl dibynnu gormod ar gynlluniau, ac anghofio mai ysbryd y peth byw sydd yn bwysicaf. Rhaid i'r awydd am addysg godi o fysg y werin ei hunan. Dyna paham, i'm tyb i, y mae Ysgolion Haf Dibreswyl yn chwarae rhan mor bwysig yn natblygiad Addysg Pobl mewn Oed. Praw diamheuol fod yr ysbryd a'r awydd yn fyw yng Nghylch Gwyrfai ydyw i saith ardal, yn cynrychioli deuddeg dosbarth, wahodd Ysgolion Haf Dibreswyl Coleg Harlech i'w mysg eleni eto. Nid er dim y llafuriodd y W.E.A. yn yr ardaloedd hyn, ac yn awr dechreuir medi ffrwyth llafur cynnar yr arloeswyr. Cychwynnodd y gyfres wythnos cyn y Sulgwyn, a Dr. T. Hughes Griffiths, Caerfyrddin, yn arwain dosbarthiadau Bwlan a Brynaerau i feysydd toreithiog Problemau Cydwladol". Noson olaf y cwrs y bûm i yno, a Rwsia a'r Crisis" oedd y testun. Yn deg a diduedd, taflwyd cipolwg ar yr Hen Rwsia a'r Rwsia Newydd. "Gorfu i'r hen Ymerodraeth", sylwai'r athro, "ymladd am ei hoedl rhag i farbariaid y Dwyrain ei hanrheithio, ac yn yr ymdrech honno aeth mudiadau mawr Gorllewin Ewrop, megis y Dadeni Dysg a'r Diwygiad Protestannaidd, heibio iddi. Heddiw, honna Rwsia iddi greu, i'w phwrpas ei hunan, gyfundrefn o gymdeithas well na chyfundrefn gyfalafol y Gorllewin". Yr un athro a wahoddwyd i Uweh-Gwyrfai,-bu yno y llynedd hefyd. Eleni, "Cyfraniad y Gwledydd Bychain at Wareiddiad" oedd y maes. "Nod gwledydd bychain ydyw cadw gwerthoedd", ebe'r athro,y gwerthoedd anweledig hynny, megis barn, trugaredd, cariad, a chyfiawnder, gwerthoedd parhaus. Cyfraniad pwysicaf Cymru at wareiddiad, er na ddeallodd hi erioed ei neges, ac na wrandawodd arno, ydoedd Robert Owen o'r Drefnewydd". Soniodd yr athro hefyd am wledydd Scandinafia, a phwysleisiodd ddylanwad syniadau Robert Owen ar ddatblygiad gwerinol y gwledydd hynny. Y gaeaf diwethaf y cafwyd dosbarth W.E.A. am y tro cyntaf yn Nazareth, ger Llanllyfni, eithr cynheuwyd yno ffagl nas diffoddir. Praw o hynny ydyw iddynt fentro gwahodd Dr. David Richards yno i gadw Ysgol Haf. ProtH lemau'r Dydd" oedd y testun. Yn ystod yr wythnos, bu trafod ar ÿ Byd ar ôl y Rhyfel, y rhagolygon a'r anawsterau. Ceisiwyd portreadu cyflwr Prydain wedi'r rhyfel, a'r cysylltiadau rhwng yr Unol Daleithiau a Rwsia. Clodd yr athro y cwrs â darlith odidog ar achosion rhyfel. Nid gwrthod dwyn arfau rhyfel yn unig sy'n mynd i sicrhau heddwch", meddai Dr. Richards; "na, rhaid gweithio'n egnïol i sicrhau heddwch rhaid cario cenadwri fawr Cristion- ogaeth ledled y byd".