Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

YSGOL HAF GORSEINON (GAN Y PARCH. D. J. James) Tua deng mlynedd yn ôl, mewn Ysgol Haf ar lan y môr ger Abertawe, y daeth nifer o drigolion De a Gorllewin Cymru i wybod, am y tro cyntaf mewn unrhyw ffordd bendant, am Goleg Harlech. Yn y cyfnod hwnnw cyn- helid, trwy garedigrwydd Mr. a Mrs. Mansel Grenfell, Ysgol Haf yn gyson yn eu cartref flwyddyn ar ôl blwyddyn. Yno y deallodd llawer ohonom gyfrinach gwir addysg a diwylliant. Y flwyddyn ddiwethaf, a thrachefn eleni, trefnwyd Ysgol Haf Ddibreswyl, o dan nawdd Coleg Harlech a Changen Llwchwr o Gymdeithas Addysg y Gweithwyr, yng Ngorseinon. Daeth 1100 drigolion ardal Llwchwr i Neuadd y Gweithwyr, Gorseinon, yn ystod yr wythnos, Gorffennaf 10-15, i fwynhau cwmni ei gilydd, ac i'w hyfforddi gan athrawon cymwys a hyddysg yn eu gwahanol bynciau. Cawsom eleni, fel y llynedd, nid yn unig arweiniad doeth a chefnogaeth barod Ben Bowen Thomas a Mansel Grenfell, ond eu cwmni cyson drwy'r wythnos. Am chwech o'r gloch Nos Lun, yn ei anerchiad agoriadol, trawodd B. B. Thomas dant hapus a chartrefol, ac fe roes, yn ei ffordd ddihafal, gyweirnod priod i holl waith yr ysgol. Golygfa hardd oedd gweld yr aelodau yn dal ar ei eiriau, a phrofiad melys oedd teimlo'r awyrgylch yn cynhesu gan droi'r Neuadd yn aelwyd gynnes, a ninnau 011 megis un teulu mawr o gylch y tân. Cynhaliwyd dosbarthiadau, o Nos Lun hyd Nos Wener, mewn Drama (Mrs. Mary Lewis), Seicoleg Plentyn (Dr. G. H. Green), Cymdeithaseg (y Parch. Oswald R. Davies), Problemau Cydwladol (Alwyn D. Rees), ac Ad- drefnu Economaidd yng Nghymru (T. I. Jeffreys Jones). A'r meysydd hyn i gyd mor ddeniadol, cryn gamp i'r aelodau fu dewis pa ddosbarth i ymuno ag ef. Felly, trefnwyd i'r aelodau ddyfod ynghyd, yn union ar ôl gorffen y dosbarthiadau, i wrando ar bob darlithydd yn ei dro yn annerch ar ei destun arbennig yn yr Ysgol. Prynhawn Sadwrn, trefnwyd te a chyngerdd i'r aelodau, a rhoes aelodau'r Dosbarth Drama berfformiad un-act o waith ei ddarlithydd, Mary Lewis. Casglwyd hefyd, yn ystod y prynhawn, chwe phunt tuag at Gronfa Goffa D. J. Davies, fel arwydd fechan o'n gwerthfawrogiad o'i wasanaeth mawr i Fudiad Addysg y Gweithwyr yn ardal Abertawe. Y gŵr gwadd i gloi'r Ysgol oedd Wynne Lloyd, Arolygydd Ysgolion, a thraddododd yntau, yn ôl ei arfer, anerchiad gwych ar Addysg a'r Sinema. Yn arwyddocaol iawn, cyfeiriodd pob un o'r darlithwyr yn ei dro, yn ddiar- wybod y naill i'r llall, at broblem y Sinema. Yn sicr ddigon, dyma un o broblemau llosg y dydd, a rhoes Mr. Lloyd, mewn anerchiad onest a threiddgar, nifer o ffeithiau pwysig ac awgrymiadau gwerthfawr inni arni.