Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

GWAITH BLWYDDYN Rhydd Adroddiadau Rhanbarthau'r De a'r Gogledd gyfrif o waith Cym- deithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru am y flwyddyn a oedd yn gorffen Mai 31 eleni. Gellir cael copïau ohonynt trwy anfon at y Trefnwyr yng Nghaerdydd a Bangor. Dywaid Adroddiad y De, Ni bu'r canghennau erioed mor weithgar, yn holl hanes y Gymdeithas yn Neheudir Cymru" ac y mae Adroddiad y Gogledd yr un mor hyderus. Yn ystod y flwyddyn, cynhaliwyd 533 o ddos- barthiadau, ac ynddynt 9205 o fyfyrwyr. Yng Ngogledd Cymru, yr oedd 229 dosbarth, a 3959 o fyfyrwyr, ac yn y De 304 dosbarth, a 5246 o fyfyrwyr. Cymdeithas Addysg y Gweithwyr a drefnodd y rhan fwyaf o'r dosbarthiadau hyn, ac a gynhaliodd lawer iawn ohonynt. Yng nghylchoedd Abertawe, Bangor, a Chaerdydd, cynhelir y Dosbarthiadau Tair Blynedd, a llawer o'r Dosbarthiadau Blwyddyn, gan Gyd-Bwyllgorau'r Colegau (yn cynnwys cynrychiolwyr o'r Coleg a'r W.E.A. ynghyd), a chynhelir hefyd rai dosbarth- iadau byrion ganddynt. Awdurdodau'r Coleg yn unig a fydd yn trefnu a chynnal Dosbarthiadau Cylch Aberystwyth. Cynhaliodd W.E.A. Deheudir Cymru ei hun 106 o ddosbarthiadau, a W.E.A.'r Gogledd 130. Y dosbarth- adau hyn yn unig a elwir yn "Ddosbarthiadau'r W.E.A." gan rai pobl, heb gofio mai'r Gymdeithas a fydd yn trefnu'r rhan fwyaf o'r dosbarthiadau eraill hefyd, a bod ganddi ran yn eu cynnal. O'r holl ddosbarthiadau hyn, fe gynhaliwyd, yn y De a'r Gogledd, 219 i astudio Pynciau'r Dydd, Ad-drefnu ar ôl y Rhyfel, Economeg, Llywodraeth Leol, a Materion Cydwladol. Bu 136 dosbarth yn astudio Crefydd, Athron- iaeth, a Meddyleg 88 Hanes a Llên Cymru 24 Hanes, heblaw'r rhai a gyf- rifwyd o dan rai o'r penawdau eraill 41 Gerddoriaeth, Celfyddyd, a'r Ddrama 16 Lên Saesneg; ac 21 yn astudio Gwyddor, yn enwedig Gwyddor Gwlad. Y mae rhestr galwedigaethau'r myfyrwyr yn ddiddorol. Gweithwyr â'u dwylo,-mwynwyr, chwarelwyr, peirianwyr, gweithwyr haearn a dur, gweithwyr y ffyrdd heyrn, gweision ffermydd,-ydyw'r dosbarth lluosocaf o gryn dipyn, ond heblaw'r rheini, ceir cryn lawer o athrawon, gweision y siopau a'r post, masnachwyr, a merched yn gweithio gartref. Heblaw cyfrif o'r dosbarthiadau hyn, fe gynnwys yr Adroddiadau Blwyddyn hanes gwaith arall y Gymdeithas. Cynhaliodd, neu drefnu, nifer o Ysgolion Haf, ac o Ysgolion Bwrw Sul, ac Ysgolion Undydd. Y mae goleuo'r wlad ar bwnc Addysg hefyd yn rhan o'i gwaith, a cheir yma gyfrif o nifer o Gynadleddau, a Chyfarfodydd Cyhoeddus, a gynhaliwyd ganddi i drafod y Ddeddf Addysg newydd, pan oedd honno'n Fesur gerbron y Senedd.