Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLYFRAU NEWYDDION Hen Arweinwyr Eisteddfodau, gan Daniel Williams Y Dyn â'r Gaib, gan T. E. Nicholas Gorchfygu'r Byd, gan E. Tegla Davies. Y cwbl yng nghyfres Llyfrau Pawb. Gwasg Gee, 1s. 3c. yr un. Trwy gyfrwng gwasanaeth Llyfrau'r Dryw a Llyfrau Pawb, yr ydym bellach wedi hen arfer â'r tamaid hwnnw y dywedir amdano mai i aros pryd y mae da. Ni olygwn, wrth gwrs, mai dyna yw pob un o'r llyfrau a gyhoeddir gan y Gweisg hyn cyhoeddasant rai pethau a oedd yn gyflawn ac yn ddigonol fel yr oeddynt. Eithr fe ddyry'r maint hwn gyfle i awdur roddi blaenffrwyth, neu amlinelliad, o'i astudiaethau i'r cyhoedd megis, cyn darfod y gwaith mawr. Rhydd hefyd gyfle i awdur grynhoi at ei gilydd i gwmpas hwylus y prif wybodaethau a berthyn i bwnc sydd eisoes wedi ei astudio'n ofalus. A hwyrach, ymhlith llyfrau hanes neu ymchwil, mai dyma'r peth doethaf i'w gyhoeddi yn y gyfres hon. Dyna'r hyn a deimlem ar ôl darllen Hen Arwein- wyr Eisteddfodau. Dewisodd yr awdur faes newydd, maes nad oes ymchwil na beirniadaeth fanwl a thrylwyr wedi bod ar waith ynddo eto, hyd y gwyddom. Am hynny, hwyrach mai doethach fuasai i'r awdur ymaros yn hwy wrth ei astudiaeth, a chyhoeddi gwaith llawn ar ei bwnc yn nes ymlaen. Perygl llyfr poblogaidd ar bwnc newydd ydyw creu cam farnau y bydd llawer o waith eu newid yn nes ymlaen. Dosbarthwyd yr arweinyddion yr ymdrinir â hwy i ddau gyfnod, sef o 1819 hyd 1880, cyfnod yr Eisteddfodau Cymysg, fel y geilw yr awdur ef ac o 1880 hyd 1937, cyfnod Cymdeithas yr Eisteddfod Genedlaethol. Cadwyd at arweinyddion a gafodd enwogrwydd cenedlaethol, ac o dro i dro rhoddir bywgraffiad byr o'r arweinwyr mawr, Mabon, Mynyddog, Talhaiarn, Llew Llwyfo, Llew Tegid, — heb enwi dim ond ychydig. Y mae'r cwbl o'r byw- graffiadau hyn yn ddifyr, ond o angenrheidrwydd yn fyr iawn. Eto, er byrred y gofod, tybiwn y gâUasai'r awdur fod wedi rhoddi mwy o sylw i ddatblygiad y grefft o arwain Eisteddfod, a cheisio dangos beth fu ei chynnydd a'i rhawd o 1819 hyd 1937. Fel y mae, cyfres o fywgraffiadau di- gyswllt a geir, heb nemor ddim beirniadaeth a safbwynt i uno'r cwbl, a gwneud stori o'r maes. Crybwyllir lawer tro am feistrolaeth hwn a'r llall ar dyrfa fawr anniddig beth fu dylanwad yr Eisteddfod fawr ar y ddawn o arwain ? Gall- esid bod wedi mentro mwy i'r cyfeiriad hwn.