Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Oherwydd rhedeg gofod ymlaen, ni allwn yma wneud teilyngdod â'r drydedd gyfrol a enwyd uchod, sef Gorchfygu'r Byd, gan y Parch. E. Tegla Davies. Cyfrol o bregethau yn wir, gwell fyddai ei disgrifio, efallai, fel un bregeth wedi ei rhannu'n dair rhan, a thrachefn yn adrannau manach. Yn y rhan gyntaf, ymdrinir â Llywodraeth Dduw yn yr ail, Adnoddau'r Eglwys ac yn y drydedd ran, trafodir Cyflwr y Byd. Fel y dywedais, nid oes ofod i drafod y problemau mawr a'r awgrymiadau a roddir yn y pregethau hyn. Yn y bregeth olaf, nodir tri mawrddrwg y byd heddiw, sef anghyflogaeth, gamblo, a meddwi. Anghytunaf â'r diffiniad hwn o afiechyd cymdeithas mewn un peth; i'm tyb i, tair arwedd ar un drwg ydynt, ac nid tri drwg ar wahân, drwg sydd yn gyffredin i'r Almaen a Phrydain, yr Unol Daleithiau a Ffrainc> fel ei gilydd nid rhaid i'r sawl a ddarlleno waith Nicholas holi beth ydyw. Nid bod dynion yn gamblo ydyw'r drwg, ond eu bod wedi eu gosod yn y fath sefyllfa gan ddosbarth bychan o ddynion fel na allant wneud dim arall i gael bywyd nid bod dynion yn meddwi yw'r drwg, ond bod eu cartrefi a'u bywyd teuluol wedi ei chwerwi gymaint gan dlodi fel na allant feddwl am gydnawsedd onid mewn diod nid mai gwag yw'r capeli ydyw'r drwg, ond mai gwasanaeth- yddion yn aml, a niwtraliaid yn ddieithriad bron, fu'r eglwysi yn y frwydr i drechu'r dosbarth perchenogol sydd yn wraidd yr holl bechodau hyn i gyd. Pwysleisia Mr. Davies fod crefydd yn antur y mae felly pan fo'n ymladd yn erbyn Tad y Drwg. Wrth gwrs, dadlau ac nid adolygu yw hyn. Dyna, efallai, fantais cyfrol o bregethau gellir dadlau arnynt yn deg gan fod y testun bob amser wrth law. Yn aml, y mae digon o ddadlau ar bregethau a glywir,ond y gwaethaf yw y priodolir pethau i'r pregethwr na ddywedodd erioed mohonynt. Prun bynnag, ar hyn o bryd, ni fentrwn fwy ar y gyfrol ddiddorol hon. D. TECWYN LLOYD Oddi wrth yr N.C.L.C. Publishing Co., Ltd., daeth pamffledyn chwe- cheiniog, What is Imperialism ? gan T. Ashcroft. Edrydd hanes twf Imperial- aeth yn y ganrif o'r blaen yn glir ac yn gryno iawn, a dengys y galluoedd econ- omaidd sydd yn tueddu at ryfel yn ein cyfnod ni. Un Wladwriaeth i'r holl fyd ydyw ei feddyginiaeth, ond nid oes le i lawer o fanylion. Y mae'r awdur yn olygydd y Railway Review, papur wythnosol Undeb Gwyr y Ffyrdd Heyrn. D. T. Freedom in Education, by E. H. Partridge. Faber and Faber. 5s. Amddiffyniad o gyfundrefn ein "Hysgolion Cyhoeddus"(fel y cam- enwir hwynt) ydyw'r llyfr hwn, yn bennaf,-o hawl rhieni i ddewis y math o ysgol a ddymunant i'w plant. Ceisir dangos bod rhai o'r cyfraniadau mwyaf at gynnydd mewn addysg wedi eu gwneud gan yr ysgolion hyn, sydd yn awr yn nod i lawer o ddifrïaeth hawlir bod eu rhagoriaeth yn galw am chwanegu atynt, yn hytrach nag am eu lleihau. Dadleuir bod gwrthod gadael i'r neb a all fforddio hynny ddewis eu hysgolion eu hunain yn groes i egwyddorion gweriniaeth, yn gymaint ag na wrthodir hawl i ddinesydd i brynu rhyw gel-