Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fyddydwaith drud, neu wario arian ar wyliau costus, am yr unig reswm na all ei gymdogion tlodion fforddio yr un peth. Rhoddir disgrifiad manwl o wahanol agweddau bywyd yn yr Ysgolion Byrddio, a cheir trafodaeth lawn ar berthynas y Prifathro â'r ysgolorion, yr athrawon, a'r pwyllgor llywodraethol. Y mae'n rhyfedd na ddywedir dim yma am le'r rhieni, yn enwedig ag ystyried bod cyd- weithrediad rhwng y cartref a'r ysgol yn fater mor bwysig heddiw. Y mae'n ddigon tebyg y bydd y darllenydd yn anghytuno â llawer o'r pethau a ddy- wedir yn y llyfr hwn, ac â llawer o'r dulliau a gymeradwyir, ond y mae'r ddadl fod yr ysgolion byrddio gorau yn cynrychioli pob agwedd ar gymdeithas yn un sydd yn haeddu ystyriaeth. ALMA B. EvANS (Bu raid cadw yr adolygiadau eraill mewn llaw, o eisiau lle iddynt)., CYFEIRIADAU Ysgrifennydd Cyffredinol, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr, — Ernest Green, 38a St. George's Drive, London, S.W. i. Trefnydd, Rhanbarth Deheudir Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr,- D. T. Guy, Swyddfa'r W.E.A., 38 Charles Street, Caerdydd. Trefnydd, Rhanbarth Gogledd Cymru, Cymdeithas Addysg y Gweithwyr,- Mrs. M. Silyn Roberts, Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor. Golygydd LLBUFER,—David Thomas, Y Betws, Bangor. Goruchwyliwr Busnes LLEUFER,—D. Tecwyn Lloyd, Pen-y-bryn, Glan- rafon, ger Corwen. Dosbarthwr LLBUFBR,—Miss Eluned Parry, Swyddfa'r W.E.A., Coleg y Brifysgol, Bangor.