Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

LLEUFER CASGLIAD O YSGRIFAU AT WASANAETH CYMDEITHAS ADDYSG Y GWEITHWYR YNG NGHYMRU CYFRES LLEUFER YR AIL GASGLIAD NODIADAU'R GOLYGYDD Y llynedd, yn Ue cylchgrawn, cyhoeddasom gasgliad o ysgrifau a newyddion at wasanaeth Cymdeithas Addysg y Gweithwyr yng Nghymru. Dyma, yn awr, gasgliad arall, yr ail o'r gyfres. Yr ydym yn gohebu â'r Rheolydd Papur ers peth amser bellach, ac yn gobeithio na fydd yn rhaid inni aros yn hir iawn eto cyn symud y rhwystrau sydd ar ffordd cyhoeddi LLEUFER yn gylchgrawn rheolaidd bob chwarter blwyddyn. A wna aelodau'r dosbarthiadau gofio mai cyhoeddiad iddynt hwy ydyw hwn, yn bennaf ? Yn gyntaf oU, mi geisiaf gael ysgrifau ar bynciau a astudir ganddynt yn eu dosbarthiadau, ac ysgrifau i roddi blas iddynt ar bynciau eraill. Daw Materion y Dydd, a Hanes, a Llên a Cherdd a'r Ddrama, o fewn cylch ein trafodaeth. Y mae arnaf eisiau hefyd hanes peth o waith y canghen- nau, yr anawsterau a ddaeth i'w rhan, a'r modd y goresgynnwyd y rheini, a pha gynlluniau newydd sydd ganddynt. Fe geisiwn hefyd, o dro i dro, ystyried cwestiynau sydd yn ymwneud yn arbennig ag addysg yng Nghymru. Pa beth arall sydd yn eisiau ? Byddaf yn ddiolchgar am bob llythyr o feirniadaeth a dderbyniaf, cofiwch, ac am bob awgrym sut i wneud LLEUFER yn fwy gwasanaethgar. Fe ddechreuir cyhoeddi LLEUFER ar adeg bwysig iawn yn hanes addysg Cymru. Rhoes y Ddeddf newydd hawliau arbennig i Gymru i drefnu ei haddysg ei hun, a Phwyllgor Cynghori arbennig i'w chynorthwyo i wneud hynny. Cyhoeddwyd enwau aelodau'r Pwyllgor eisoes, ac fe gynnwys y rhestr enwau nifer dda o ddynion sydd yn selog dros hawliau'r iaith Gymraeg, a'i llenyddiaeth. Rhaid cynllunio cwrs ein haddysg i feithrin ein nodweddion cenedlaethol ein hunain, ac ar yr un pryd gymhwyso ein bechgyn a'n merched i fod yn ddinasyddion y byd, a chymhwyso cenedl y Cymry i fod yn aelod cyflawn o frawdoliaeth y cenhedloedd. Rhoddwyd i Gymru ei Ue arbennig ei hun hefyd yn Adroddiadau nifer o Bwyllgorau a fu'n ystyried gwahanol agweddau ar bwnc Addysg. Ar Bwyllgor McNair ynglŷn â Hyfforddi Athrawon ac Arweinwyr Pobl Ieuainc, er enghraifft, cafwyd un aelod o Gymro, Ben Bowen Thomas, ac yn Adroddiad y Pwyllgor rhoddwyd hanner dwsin o dudalennau i drafod anghenion arbennig Cymru. Cymeradwywyd bod trefnu Hyfforddi Athrawon yng Nghymru o hyn ymlaen i fod o dan ofal y Brifysgol, a'i cholegau, a bod yr holl Golegau Hyfforddi i gydweithredu ar Fwrdd Hyfforddi y Brifysgol. Eisoes fe wnaed yn hysbys fod y Weinyddiaeth Addysg am sefydlu dau Goleg Hyfforddi newydd yng Nghymru yn fuan.