Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhoddwyd ystyriaeth arbennig i Gymru eto yn Adroddiad Pwyllgor Fleming ar yr Hen Ysgolion Gramadeg (Public Schools). Yr Athro W. J. Gruffydd oedd yr Aelod Cymreig ar y Pwyllgor hwn. Yn ôl Adroddiad y Pwyllgor, ni fu ysgolion preswyl yn cyfrif llawer ym mywyd Cymru hyd yn hyn, ond y mae Ue iddynt, er hynny. Os sefydlir rhai, bydd yn rhaid iddynt, yn rhan o'u gwaith, feithrin hen draddodiadau'r genedl, a iaith a Uenyddiaeth Gymraeg. Ond fe ddylai pwy bynnag yng Nghymru sydd yn dymuno anfon eu plant i'r Public Schools Seisnig gael yr un cyfleusterau i wneud hynny phobl Lloegr, medd yr Adroddiad. A gaf i gymell aelodau ein canghennau a'n dosbarthiadau i astudio'r Adroddiadau hyn yn ofalus, a gwylied gweithrediadau'r Pwyllgorau Addysg yn eu hardaloedd eu hunain, a'r cynlluniau newydd a baratoir ganddynt ? Gofelwch fod gan y Llyfrgelloedd Cyhoeddus gopïau o'r Ddeddf Addysg, ac o'r Papur Gwyn sydd yn ei hegluro, ac o Adroddiadau Pwyllgorau Spens, Norwood, McNair, Fleming, Luxmoore, a'r lleill. Sôn am gyhoeddiadau'r Llywodraeth, y mae'r Adroddiad am weithrediadau'r Senedd a gyhoeddir bob dydd gan Hansard yn bwysig iawn, ac fe ddylai pob Llyfrgell Gyhoeddus o ryw faint fod â chopiau ohonynt i gyd, a rhoddi pob hwylustod i bawb gael cyfle i'w darllen. Y mae'r gwerthu sydd ar y Penguin Hansard yn ddigon i brofi bod llawer iawn o bobl yn y wlad sydd ag awydd arnynt am ddarllen areithiau'r Aelodau yn y Senedd. Ychydig iawn o sôn am Addysg Pobl mewn Oed sydd yn y Ddeddf Addysg newydd, ac ni chafodd cynlluniau'r Llywodraeth i estyn y cyfleusterau eu gwneud yn hysbys eto. Y mae un gwahaniaeth pwysig rhwng yr addysg a geir yn Nosbarthiadau Tu Allan y Brifysgol a'r hyn a geir yn y Dosbarthiadau Tu Mewn, a hefyd rhyngddynt a'r addysg a roddir i'r plant a'r bobl.ieuainc. Un o brif amcanion addysgu'r to ieuangaf, ac yn wir y prif amcan yng ngolwg llawer, ydyw eu cymhwyso i ennill eu bywoliaeth, yn enwedig eu cymhwyso i ennill cyflogau mawr. Ond, yn nosbarthiadau'r W.E.A., peth anaml iawn ydyw gweld neb yn dyfod yno â'i amcan i ennill gwell safle yn y byd, ond yn hytrach daw'r aelodau yno o wir awydd am ddysgu, ac o gariad at ddiwyUiant er ei fwyn ei hun. Cwynir yn aml fod synied am addysg mai rhywbeth i ennill bywoliaeth ydyw yn syniad diraddiol ac annheilwng. Ond nid yw hyn yn hollol deg. Rhaid i'n plant a'n pobl ifainc feddwl am y blynyddoedd sydd o'u blaenau bydd yr angen am ennill ei fywoliaeth yn wynebu pob un ohonynt, ac y mae ganddynt hawl i ddisgwyl inni roddi pob cyfleustra iddynt i ymbaratoi ar gyfer hynny. Ar gefn hyn, y mae ar y wlad hefyd angen am eu gwasanaeth, ac angen am eu hyfforddi mewn crefft a gwyddor, i'w cymhwyso i roddi'r gwasanaeth gorau i gymdeithas. Ond heblaw paratoi'r mab neu ferch i ennill bywoliaeth, a'i gymhwyso i weithio'n well, fe erys yr angen am wneud rhyw- beth mwy na'r un o'r ddau, sef, darparu cyfleusterau i'w bersonoliaeth dyfu'n rhydd yn ôl ei elfen. Dyma bwrpas uchaf addysg, ac fel y daw mwy o oriau hamdden i ran y gweithiwr fe gaiff fwy o gyfle i ddefnyddio moddion addysg i'r diben hwn. Gwaith y W.E.A. a'r Brifysgol, a'r cyfryngau eraill, fydd darparu'r moddion hynny ar ei gyfer. Edrychwn ymlaen yn ddisgwylgar am gael gwybod beth fydd cynlluniau newydd y Llywodraeth i hyrwyddo'r math hwn o addysg.