Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

BARDDONIAETH DDIWEDDAR T. GWYNN JONES GAN GWILYM R. JONES Dychmygaf weled gŵr llengar o Gymro-un o'r rheini a gafodd flas ar ddarllen barddoniaeth Gymraeg ym mlynyddoedd y canol oed-yn clywed bod llyfr newydd gan T. Gwynn Jones wedi ei gyhoeddi, ac yn brysio i'r siop lyfrau agosaf ato i brynu'r gyfrol. Cafodd y cyfaill-chwarelwr diwylliedig o Arfon-faeth i'w feddwl a'i galon yn nhelynegion Ceiriog, Eifion Wyn, a Chrwys, ers llawer dydd, heb gy- morth na geiriadur na beirniad na dosbarth nos. Yna, mewn dosbarth W.E.A., daeth wyneb-yn-wyneb â T. Gwynn Jones, R. Williams Parry, W. J. Gruffydd, T. H. Parry-Williams, ac eraill. Oni fwynhaodd rannau o Ymadawiad Arthur," Madog," Yr Haf," Englynion Coffa Hedd Wyn, Ynys yr Hud," John Hughes yr Oriana," Y Ddinas," a Tŷ'r Ysgol"? Gallaf weled y gwerinwr awengar hwn yn rhoi proc i dân ei aelwyd un o'r nosweithiau gaeafol hyn, yn ymsuddo rhwng breichiau ei gadair esmwyth, ac yn cydio yn y gyfrol ddiweddaraf o gerddi T. Gwynn Jones, Y Dwymyn (Gwasg Aberystwyth, 3s. 6ch). Egyr ef, a dechrau darllen. Ni phair y cyflwynair I M.T.W., K.R., a P.R." ddim penbleth iddo y mae'n hen gyfarwydd â Morris T. Williams, Kate Roberts, a Phrosser Rhys. Yna daw at y gân fer mewn llythrennau italaidd: Gwr a ryfygo osod mewn geiriau rai o feddyliau'r hil. Y mae ganddo glust ddigon main i glywed acen y gynghanedd g.r. g..r. r Ond," medd wrtho'i hun, dyma beth od 'does dim prif lythrennau ar ddechrau pob llinell yn y gân hon. Paham, tybed ? A mi a'i gwelaf hi yn awr—un paragraff ydyw'r gerdd; y mae fel dernyn o ryddiaith lle na cheir prif lythrennau ond ar ddechrau brawddegau ac ar ddechrau enwau personau a lleoedd." Gyferbyn â'r gerdd gyfarch hon, gwel ddernyn o dan y pennawd, Y Saig." Dechreua ddarllen Dim ond dy ben, ar ddysgl ar y bwrdd. Pen Ioan Fedyddiwr ar blât! medd wrtho'i hun. Dyma rywbeth newydd sbon Yna daeth y llinell ynghanol y letys gwyrdd.