Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y mae'n hoff o eiriau fel onid," efô," diau," o ddyblu'r cytseiniaid terfynol mewn geiriau byrion fel herr a "cwrr," ac o eiriau ansathredig fel hoed," diffryd," haer," ac nid ofna ambell air fel wast "ac" aither." At hyn, sylwer ar fynychder y llinell ddeuair fer i derfynu pennill-daear dywyll, cyd cas, leddf las, haer hir, etc. Rhan o fiwsig y canu ydyw y rhain, fel rheol. I Gwynn Jones y mae rhywbeth cyntefig mewn cerdd dafod. Efallai y cenfydd ambell ddarllenydd ddieithrwch yn rhai o'r llinellau oherwydd na lŷn y bardd wrth yr un ffurf i'r frawddeg, nac yn wir wrth ychydig ffurfiau cynefin. Gwae'r darllenydd sydd yn disgwyl i bob brawddeg ddechrau â'r ferf, ac yna'r testun a'r gwrthrych. Gwell gan Gwynn Jones amrywiaeth- enw neu ansoddair, neu ferfenw yn gyntaf, i ateb i'r pwys rhetoregol neu ofyn- :ion y gynghanedd. Diau y gallai'r ysgolhaig olrhain dylanwad ieithoedd heblaw'r Gymraeg ar ei arddull. Digon i ni nad ydym ysgolheigion yw sylwi bod y bardd yn dilyn hen draddodiad llenyddol yn fynych. Dyna'r hyn a eilw John Morris-Jones yn ferfenw hanesyddol effeithiol iawn yw'r modd y defnyddir ef gan awdur Y Dwymyn." Enghraifft neu ddwy Torri o sgrech ar y distawrwydd. Agoryd o'r drws yn ddistaw ac araf. Ceir yma hefyd ddulliau cain eraill o ymadroddi, yn cynnwys y frawddeg enwol bur, sydd mor rymus o'i defnyddio yn y lle iawn.^A fynno ymgyfar- wyddo â rhai o briod-ddulliau hyfrytaf ein hiaith, darllened holl weithiau Gwynn Jones, yn brydyddiaeth a rhyddiaith. HOLI AC ATEB τ.-A oes sail i'r hawl fod Edward German a Syr Walford Davies yn Gymry, ar wahân i'w henwau Cymraeg, a'r ffaith eu bod wedi eu geni yn Sir -Amwythig, ar derfynau Cymru ? Faint o Gymro ydyw Dr.Vaughan Williams ? 2.-Clywais awgrymu bod Cerdd yr Hen Wr David Charles yn gyfieithiad o'r Saesneg. A all rhywun roddi chwaneg o wybodaeth ar hyn ? 3.-Pa lyfrau a fyddai orau i'w darllen ar hanes y W.E.A.? Dyma awgrym i'r rhai a fydd yn dymuno cadw eu copiau o LLEUFER. Rhwymir ef â weiren haearn, ond bydd honno'n rhydu ynghwrs amser. Tynnwch y weiren hon allan, a rhoddwch edau gref yn ei Ue. Gwnewch dri thwll yng nghefn y papur, un yn y canol, a'r lleill yn agos i'r ddau ben. Rhoddwch bennau'r edau drwy'r twll uchaf, a'r isaf, o'r tu mewn allan ac yna, dygwch y ddau ben i mewn gyda'i gilydd drwy'r twll canol. Gofelwch eu bod yn dyfod i mewn un bob ochr i'r edau sydd i mewn eisoes, a chlymwch hwy yn -dynn am honno.