Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

CYFLWR ECONOMAIDD Y BYD Gan EMRYS JENKINS World Economic Development Effects on Advanced Countries, by Eugene- Staley. International Labour Office, Montreal. 5/ Gwelir mai cyhoeddwyr y llyfr hwn ydyw'r Gyfundrefn Lafur Gyd- wladol (yr I.L.O.), sydd yn awr, oherwydd amgylchiadau'r rhyfel, a'i phen- cadlys ym Montreal, Canada. Un rhan o waith y Gyfundrefn, a rhan a wnaeth yn llwyddiannus iawn hyd yn hyn, ydyw trefnu ymchwiliadau i broblemau economaidd a chymdeithasol ein cyfnod, a'u cyhoeddi, er goleuo gwerinoedd a Uywodraethau, a cheisio sylweddoli'r pwrpas mawr a ymddiriedwyd iddi gan Gynhadledd Heddwch Versailles yn 1919, sef gwella amodau gwaith, ac amgylchiadau'r gweithwyr drwy'r byd i gyd. Dyma'r tro cyntaf mewn hanes i Gynhadledd Heddwch roddi erthyglau sydd yn ymwneud â chyflwr y gweith- wyr i mewn yn ei Chytundebau. Yn ôl yr erthyglau hyn, a'i Chyfansoddiad, sydd yn rhan o'r Cytundeb Heddwch, gwaith yr I.L.O. fydd (1) gwella a gwastatâu amodau llafur, mynnu oriau gwaith rhesymol, a gwyliau a darpar- iadau iechyd, a diogelwch mewn gweithfeydd, etc., drwy'r byd i gyd; (2) annog a chynorthwyo gwledydd i fabwysiadu cynlluniau o yswiriant cym- deithasol ac (3) yn fwy uchelgeisiol, ymgyrraedd at ennill tri diwygiad econ- omaidd, sef arbed eisiau gwaith, trefnu cyflenwad llafur yn briodol, a sicrhau cyflog byw digonol i bob gweithiwr. Cafodd fwy o lwyddiant yn y ddau orchwyl cyntaf nag a gafodd yn y trydydd. Yr oedd y Gyfundrefn hefyd, er ei bod yn gweithredu'n annibynnol, yn rhan o beirianwaith Cymdeithas y Cenhedloedd, a dywaid y Rhagym- adrodd i'w Chyfansoddiad na ellir sefydlu heddwch ond ar sail cyfiawnder cymdeithasol. Bwriadwyd sylweddoli'r amcanion hyn drwy gyfuniad o gydweithrediad cydwladol a deddfwriaeth gwledydd unigol, fel y byddai'r un diwygiadau cymdeithasol yn cael eu gwneud ymhob gwlad yr un pryd. Disgwylid, trwy hyn, nid yn unig gynorthwyo gwledydd Ue'r oedd safonau gwaith a byw yn isel, ac undebau'r gweithwyr yn wan, ond hefyd roddi rhywfaint o amddiffyn i wledydd o safonau uchel rhag cystadleuaeth annheg ym marchnadoedd y byd. Pa sawl gwaith yr ataliwyd diwygiadau mewn gwledydd gan ofn cys- tadleuaeth fel hyn, a hwnnw'n ofn di-sail yn aml. Gwelodd arloeswyr yr I.L.O. hyn yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg, pan oedd diwydiannaeth yn ymledu o un wlad fawr yn Ewrop i'r llall. Y mae'r peth yn llawer amlycach heddiw, a diwydiannau newydd yn neidio i fod ar hyd holl gyfandir Asia ac America, a llafur rhad anghelfydd yn defnyddio peiriannau modem i gyn- hyrchu llawer math o nwyddau, ond nid pob math, am brisiau na fedr yr hen wledydd diwydiannol ddim cystadlu â hwy. Trwy ymdrechion arloeswyr o bryd i'w gilydd yn ystod y ganrif o'r blaen, ffurfiwyd mudiad a Chymdeithas breifad yn 1900, i geisio gwella amodau llafur drwy'r byd. Bu hon yn foddion i gael gan rai^-arledydd rwystro gwaith nos i.