Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ferched mewn rhai diwydiannau, a rhwystro defnyddio ffosffor gwyn gwen- wynllyd i wneud matshis. Mudiad yr ychydig goleuedig ydoedd, ac ni chym- erodd y Cymdeithasau Llafur fawr o ddiddordeb ynddo, oddieithr yn yr Almaen. Ond cyn diwedd y Rhyfel diwaethaf, yr oedd» Llafur y gwledydd diwydiannol wedi deffro i bwysigrwydd y mater, a hefyd i'w nerth a'i Ie priodol ei hun mewn cymdeithas. Cerddai ysbryd diwygiad a chwyldro drwy'r gwledydd, ac yr oedd gwleidyddion yn barod i symud ymlaen i fodloni hawliau'r gweithwyr, mewn rhan o ewyllys onest i gyflawni'r addewidion am fyd gwell a roesent iddynt yn ystod y rhyfel, ac mewn rhan rhag ofn terfysg, neu chwyldro. Felly, ffurfiwyd Comisiwn ym Mharis yn 1919 i ystyried awgrymiadau a chynlluniau. Pwysodd cynrychiolwyr Llafur, a rhai llywodraethau, megis un yr Eidal, am greu Senedd Ddiwydiannol Gydwladol, a hawl ganddi i wneud deddfau diwydiannol i'r gwledydd, ac nid argymell yn unig. Ond cynllun Prydain, yn fwy na'r un arall, a fabwysiadwyd, cynllun sydd yn diogelu effeith- iolrwydd yr I.L.O. heb ymyrryd â sofraniaeth ddiwydiannol yr aelodau. Yn ôl y cynllun hwnnw, bydd yr I.L.O. yn llunio deddfau, neu'n gwneud "Ar- gymhellion," ac yna disgwylir i lywodraeth pob gwlad weithredu arnynt. Bydd holl aelodau Cymdeithas y Cenhedloedd yn aelodau hefyd o'r Gyfun- drefn Lafur ond nid hwy yn unig. Derbyniwyd yr Almaen yn aelod o'r cychwyn cyntaf, a pharhaodd yn aelod nes i Hitler yn 1934 ymwrthod â'r Gymdeithas a'r Gyfundrefn gyda'i gilydd. Gwrthododd yr Unol Daleithiau ymuno yn 1919, ond yn 1934, wedi cychwyn arbraw mawr economaidd a chymdeithasol y New Deal, ymaelododd yn frwdfrydig iawn. Yn 1935 daeth Rwsia i mewn. Ni fu perthynas hapus rhyngddi hi a'r Gyfundrefn, ac ar ôl 1937 peidiodd ag anfon cynrychiolwyr i'r Cynadleddau, a deil hyd heddiw i edrych yn llugoer a drwgdybus arni. Un rheswm am hyn, ond nid y pennaf, oedd y feirniadaeth a wnaed yn y Cynadleddau, nid ar Rwsia yn unig, ond hefyd ar yr Eidal, am nad oedd yr Undebau Llafur yno yn undebau rhydd, ac yn annibynnol ar y llywodraeth. Y mae hyn yn bwysig, oherwydd elfen arbennig yng Nghyfansoddiad yr I.L.O. ydyw'r gynrychiolaeth a roddir i Lafur a Chyfalaf yn y Gynhadledd Flynyddol, ac ar y Corff Llywodraethol. Er enghraifft, bydd pob gwlad sydd yn aelod yn anfon pedwar cynrychiolydd i'r Gynhadledd Flynyddol, un bob un dros Undebau'r Gweithwyr a'r Cyflogwyr, a dau dros y Llywodraeth. Y mae'r hawl ganddynt i siarad a phleidleisio yn annibynnol ar ei gilydd, a gwelir hwy yn aml yn pleidleisio'n groes i'w gilydd, yn enwedig cynrychiolwyr y meistriaid a'r gweithwyr. Amheuir doethineb y gynrychiolaeth deirplyg hon gan rai pobl, ond y mae'r gweithwyr a'r meistriaid yn debyg o ddal eu gafael yn dynn yn eu hawl i gynrychiolaeth. I gyflawni'r gwaith mawr a ymddiriedwyd i'r Gyfundrefn Lafur, crewyd peirianwaith, a phennwyd dull o weithredu yn ddigon effeithiol 1. Y Swyddfa Lafur Gydwladol, a'i Secretariat-honno ydyw canolfan ymchwil ac addysg ar faterion economaidd a chymdeithasol. Y Cyfarwyddwr ydyw'r Prif Swyddog, ac Albert Thomas, y Sosialydd Ffrengig, oedd y cyntaf a'r mwyaf o nifer o wyr da a fu'n llenwi'r swydd, dyn â gweledigaeth fawr ganddo o'r hyn y gellir ei wneud i wella cyflwr gweithwyr y byd. Ef a greodd y traddodiad fod y Cyfarwyddwr a'i swyddogion i ddadlau dros eu cynigion, ac nid bod yn amhleidiol fel y byddai Ysgrifennydd Cyffredinol Cymdeithas