Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Beth, felly, yw*r esboniad ar dwf gwledydd eraill wrth ddatblygu'n econ- omaidd ? Y mae'r ateb yn syml. Cynhyrchu mwy y byddant, ac am hynny gallant fforddio prynu mwy o nwyddau, a drutach nwyddau. Cyfoeth neu dlodi gwlad a benderfyna pa faint a bryn gan eraill. Dangosir mai cwsmer- iaid gorau'r gwledydd diwydiannol ydyw'r gwledydd diwydiannol eraill, nid y gwledydd amaethyddol, sydd, fel rheol, yn dlawd. Diddorol ydyw sylwi bod. gwledydd diwydiannol, a Phrydain yn eu mysg, yn prynu llawer iawn o nwydd- au diwydiannol y naill gan y llall. Yn y ganrif o'r blaen, cyfnewid nwyddau diwydiant am nwyddau crai a bwyd a wneid, ond yn y blynyddoedd cyn y rhyfel yr oedd dwy ran o dair 0) fasnach gydwladol yn gyfnewid gwahanol fathau o nwyddau diwydiant. Felly, os bydd nwyddau'r gwledydd diwydiannol newydd yn gyrru o'r farchnad rai mathau o nwyddau Prydain, er enghraifft, fe all hithau ail gyfèirio'i chyfalaf a'i llafur i ddiwydiannau mwy newydd a chymhleth. Ni fydd hyn yn beth newydd o gwbl yn hanes Prydain. Bu raid iddi ei wneud, er nad yn ddigon cyflym a thrylwyr, er y dydd y dilynwyd ei hesiampl gan Ffrainc a'r Almaen» a'r Unòl Daleithiau, a gwledydd eraill, a droes yn wledydd diwydiannol. Bu. raid iddynt hwythau, yn eu tro, wneuthur yr un peth. Dyna syniad i ddarllenwyr Lleufer o brif bwnc, a chasgliad gobeithiol,. y llyfr gwych hwn. Eto, cofier y pwys a rydd yr awdur ar amodau Uwyddiant,. yn enwedig ar yr angen am ryddhau masnach, yn unol ag addewid Siarter Iwerydd, a datganiadau eraill, ac ar greu byd heb ryfel. Oni lwyddir i wneud hyn, fe ail-ymgais y gwledydd at fod yn hunan-gynhaliol, ac fe edwina masnach gydwladol. O dan amgylchiadau felly, ni fanteisia'r byd bymaint ag a ddylai ar ddatblygiad economaidd anochel y gwledydd nad ydynt ond newydd ddech- rau sefydlù cyfundrefn o ddiwydiant iddynt eu hunain. Nid i dymor plentyndod yn unig y perthyn addysg. Yr wyf i yn fy wythfed mlwydd a phedwar ugain, ac y mae gennyf lawer i'w wybod eto, hyd yn oed o fewn cylch cyfyng fy ngallu i i ddysgu.—BERNARD SHAW. Dywedodd Francis Bacon fod darllen yn gwneud dyn yn ddyn llawn fod cydymddiddan yn ei wneud yn ddyn parod, a bod ysgrifennu yn ei wneud yn ddyn manwl. Y mae eisiau pob un o'r tri i wneud dyn diwylliedig.,