Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Amcan yr Undeb, yn fyr ac yn gryno, ydyw ceisio cadw Cymru'n fyw, a deffro ei thrigohon (heb anghofio'r Cymry ar wasgar) i ymwybyddiaeth lwyrach o'u Cymreigrwydd. Ceisir gwneuthur hyn i raddau mawr drwy gyfryngau sydd eisoes mewn bod ond diddorol ydyw sylwi gyda threigl y misoedd fel y daw mynych geisiadau oddi wrth unigolion neu Adrannau (sef unedau lleol neu ranbarthol yr Undeb) am i'r Cyngor fentro, yn enw'r Undeb a thros Gymru, ar ryw anturiaeth newydd. Eithr gwneir ymdrech o hyd i gadw unrhyw beirianwaith a fo'n angenrheidiol yn gwbl ystwyth, fel ygaUo'rysbrydchwythu Jle y mynno. Rhoddwyd cryn sylw yn wyneb gofynion yr amserau i gwestiwn Addysg yng Nghymru. Ar bwys datganiadau swyddogol y Weinyddiaeth Addysg y dylid rhoddi eu lle priodol yn yr ysgolion i iaith a llenyddiaeth Cymru, ei hanes a'i diwyUiant, ceisir aeddfedu barn y wlad ar y mater hwn, oherwydd gwelir nad ydyw polisi'r Awdurdodau Addysg, na barn y wlad yn gyffredinol, agos mor oleuedig ag y gallent fod. Ac oni ellir cynhyrfu meddwl ac ewyllys y Cymry ar y mater, a'u deffro i ymwybyddiaeth drylwyrach o'u hetifeddiaeth, ofer i raddau mawr a fydd unrhyw ymdrechion o du'r Weinyddiaeth Addysg. Pan gyhoeddwyd Cylchlythyr 182 gan Adran Gymreig y Bwrdd Addysg (fel yroeddyprydhwnnw), trefnoddrhai o Adrannau'r Undeb i anfon argymhellion at Awdurdodau Addysg eu rhanbarthau mewn un sir, derbyniwyd dirprwy- aeth oddi wrth yr Adran leol gan y Pwyllgor Addysg mewn sir arall, gofyn- nwyd i'r Adran leol ddewis un cynrychiolydd ar y pwyllgor arbennig a godasai'r Pwyllgor Addysg i ymdrin â'r pwnc. Adeg yr Eisteddfod Genedlaethol ym Mangor yn 1943, cynhaliodd yr Undeb gyfarfod arbennig i ymdrin â'r Mesur Addysg newydd, pryd y siaradwyd yn feistrolgar gan Dr. Gwenan Jones a bwriedir yn fuan iawn gyhoeddi pamffled, o'i gwaith hi yn bennaf, yn gosod allan nifer o egwyddorion a ymddengys yn wirioneddol bwysig yn y cyfwng presennol. Dechrau'r gaeaf hwn, hefyd, gwnaethpwyd peth newydd a diddorol gan un o Gylchoedd yr Undeb (uned Ueol, llai na'r Adran, ydyw'r Cylch), drwy ofyn i un o aelodau'r Pwyllgor Cylch ysgrifennu at y rhieni a drigai ynycylch, yr âi eu plant i'r Ysgol Sir am y tro cyntaf, yn gosod allan y dadleuon o blaid dewis y Gymraeg yn bwnc astudiaeth y plant yn eu cwrs ysgol. Nid oes yma le i ddyfynnu'r llythyr yn llawn, ond dyma rai o'r pethau a grybwyllir Y mae rhesymau cryfion dros ddileu'r dewis hwn" (rhwng y Gymraeg a'r Ffrangeg) oblegid afresymol yw gosod mamiaith plentyn ar yr un tir ag iaith dramor, a'i orfodi i ddewis rhyngddynt; ond tra pery'r drefn anhyfryd hon, dylai pob plentyn o Gymro fod yn gyfarwydd â gramadeg a llenyddiaeth ei iaith ei hun cyn ceisio dysgu iaith dramor, nad yw'n debyg o'i chlywed ond yn anaml, ac nad yw'n debyg o orfod ei siarad odid o gwbl." Ãc eta- Yr unig obaith i blentyn o Gymro i gymryd ei le priodol ym mhat- rwm y ddynoliaeth yn gyffredinol yw trwy'i'w fywyd gael ei liwio a'i oleuo drwyddo gan draddodiadau Cymru, a bod gan y cartref yn ogystal â'r ysgol ei ddyletswydd."