Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

EWYLLYS ELIN GAN I. BOWEN GRIFFITH Wrth droi a throsi tipyn pethau Jane fy chwaer, deuthum ar draws y llythyr a anfonais iddi ym mis Ebrill pan losgwyd Elin. Gwrthod dyfod i gladdu Elin a wnaeth hi, ond dyna fel y mynnai Jane fod aeth o'r Llan yma ychydig cyn y Rhyfel Mawr, ac ni chlywsom na bw na be oddi wrthi am ddeng mlynedd ar hugain. Yn wir, digwydd gweld ei hanes mewn rhyw bapur yn Matron yn yr Amwythig a wneuthum yr adeg honno, ac anfon gair ati, a buom ein dau yn ysgrifennu at ei gilydd bob rhyw fis o hynny ymlaen Jane yn adrodd hanes ei clirwydro, a minnau'n dweud tipyn o hanes y Llan yma. Efallai y bydd y Uythyr yma o ryw ddiddordeb i rai ohonoch a ddigwydd- .odd weld mymryn o hanes yr helynt yn y papur newydd. Tyddyn Pren, Llanadda, 10 Ebrill, 1942. Annwyl Chwaer, Rhag ofn na welaist ti mo'r hanes yn y Post ddoe, dyma fi'n anfon gair i ddweud wrthyt fod Elin wedi marw a'n bod yn claddu Ddydd Iau. Claddu bach i'r teulu fydd o, gwna dy orau i ddod, os medri di sut yn y byd. Mae'r trên deg o Gaer yn Llanadda am hanner dydd, bydd hynny hen ddigon buan at y claddu am hanner awr wedi un, a chei y trên chwech yn ôl os na fedri di arosnoson. CofiafodjTnawelyaphobcroesoiti. Symol iawn ydyw Tomos Ifan-reit hurt-ae y mae'n anodd cael gwybod yn iawn ganddo fo be ddaru ddigwydd i Elin. Llosgi ddaru hi wyddost- paid â dychryn, fe losgodd hi a'r ty. Mae golwg mawr yno. Ac yma efo ni mae Tomos yn aros-y creadur. Cofia fe fydd yma ddigon o le i ti yr un fath. Ar yr hen ryfel o'r blaen yna 'roedd y bai. Wyt ti'n cofio i ti fynd i Birmingham i weini ym mis Mai ? Wel, mi aeth Ellis bach i ffwrdd yn Awst. Wydde fo ar wyneb y ddaear lie 'roedd Ffrainc na Germany, 'toedd o ddim hyd yn oed wedi clywed am y Ceisar,ond i ffwrdd bu raid iddo fynd, a Tomos ac Elin yn rhoi pob math o'r cynghorion rhyfedda- iddo. Elin yn ei siarsio i beidio â gwlychu ei draed a smocio gormod, a Tomos am iddo ei gofio at ryw hen ffrind yn Wecsam—a hwnnw mae'n debyg wedi marw ers oesoedd, o leiaf 'doedd gan Tomos ddim syniad lie 'roedd o'n byw.